Dy Gamau CyntafSampl
DARLLEN
Yn fwy na hynny, mae'n teimlo bod mwy o farnau nag sydd o bobl. Ac mae'r holl farnau hynny'n newid ac yn newid o hyd. Yn onest, gall fod yn anodd iawn cadw i fyny.
Mae safbwyntiau cyfnewidiol diwylliant yn gofyn y cwestiwn, “Beth yw gwirionedd?”
Os wyt ti am ddilyn Iesu, yna bydd angen i ti angori dy fywyd i wirionedd. Dyma un o’r ffactorau allweddol sy’n gwneud Cristnogion yn wahanol i bobl nad ydyn nhw’n dilyn Iesu: dŷn ni’n cyflwyno ein bywydau i fyw allan wirionedd yr ysgrythur. Dŷn ni ddim yn bobl sy'n cael eu siglo gan farn; yn hytrach ymdrechwn ddod â'n bywydau ochr yn ochr â'r hyn y mae'r Beibl yn ei ddysgu.
A dim ond un ffordd sydd i wneud hynny:
Darllen.
Gwrando.
Astudio.
Os dŷn ni am ddilyn Iesu, mae’n rhaid i ni ddod yn gyfarwydd â dysgeidiaeth yr ysgrythur, ac yna dod â’n bywydau ochr yn ochr â’r hyn y mae’n ei ddysgu i ni. Mae'n rhaid i ni fyw mewn ymateb i'r gwirionedd, nid trwy ymateb i ddiwylliant.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Rwyt ti wedi gwneud penderfyniad i ddilyn Iesu, felly beth nesaf? Nid yw'r cynllun hwn yn rhestr gynhwysfawr o bopeth a ddaw gyda'r penderfyniad hwnnw, ond bydd yn dy helpu i gymryd dy gamau cyntaf.
More