Dy Gamau CyntafSampl
NEWYDD
Pan oeddwn ym mlwyddyn pedwar, ro’n i’n rownd derfynol yr ysgol gyfan yn y gystadleuaeth ysgol mewn Daearyddiaeth. Iawn, o’r gorau, roedd y gystadleuaeth ychydig yn llai poblogaidd na’r gystadleuaeth sillafu. Ro’n i yn y tri uchaf. Yna, daeth fy nghwestiwn. Y cwestiwn anoddaf a gefais drwy'r dydd.
A ro’n i’n anghywir.
Yn waeth byth, ro’n i’n gwybod yr atebion i’r ddau gwestiwn nesaf, sef y cwestiynau benderfynodd pwy ddaeth yn gyntaf ac yn ail. Pe bai'r cwestiynau'n cael eu gofyn mewn trefn ychydig yn wahanol, byddwn i wedi ennill.
Doeddwn i erioed wedi bod eisiau ail gyfle gymaint ag o’n i’r diwrnod hwnnw.
Trwy ddewisi di ddilyn Iesu, fe gei dii fwy nag ail gyfle, fe gei di fywyd cwbl newydd.
Pan ddewisi di ei ddilyn e, mae dy hen fywyd yn diflannu, a bywyd newydd yn dechrau.
Nid dim ond ail gyfle - bywyd newydd.
Ydy hynny'n golygu na fydd yn rhaid i ti ddelio â chanlyniadau penderfyniadau blaenorol? Na, ond mae'n golygu bod fersiwn newydd ohonot ti, gyda natur hollol newydd, nawr yn cael cyfle i symud ymlaen.
Mae cymryd dy gamau cyntaf i ddilyn Iesu yn dy wneud yn berson cwbl newydd. Cofleidia dy hunaniaeth newydd, dathla dy fywyd newydd, a’i ddefnyddio i ddangos i'r byd fod Iesu yn well nag ail gyfle.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Rwyt ti wedi gwneud penderfyniad i ddilyn Iesu, felly beth nesaf? Nid yw'r cynllun hwn yn rhestr gynhwysfawr o bopeth a ddaw gyda'r penderfyniad hwnnw, ond bydd yn dy helpu i gymryd dy gamau cyntaf.
More