Newid Bywyd: Cofleidio HunaniaethSampl
Cofleidio Hunaniaeth yng Nghrist
Mae yna wahaniaeth rhwng gwybod beth sydd wedi’i sgwennu yn y Beibl a chredu heb amheuaeth i fod yn newid sut dŷn ni’n byw ein bywydau. Gwir gofleidio ein hunaniaeth yng Nghrist yw'r hyn sy'n rhoi'r gallu i ni wynebu treialon yn hyderus. Mae’n llenwi ein bywydau gyda llawenydd, heddwch, a phwrpas. Mae’n caniatáu i ni garu ein hunain am ei fod e’n ein caru. Mae deall pwy ydym ni a phwy biau ni yn newid popeth, ond mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus yn gyson.
O’r funud dŷn ni’n dechrau credu ein bod yn deilwng, wedi’n caru, a’n gosod ar wahân gan Dduw, mae’r gelyn yn trio’i ddwyn oddi arnom. Mae e’n ein casáu pan dŷn ni’n angori ein hunaniaeth yn Nuw oherwydd mae’n ei wneud yn ddi-rym yn ein bywydau ac yn achosi ton o obaith sy’n treiddio i eraill. Fedrwn ni ddim gadael i Satan ein hatgoffa am ein gorffennol, neu ein darbwyllo na allwn newid. Mae’r Beibl yn dweud, pan fyddwn yn derbyn Iesu i’n calonnau, dŷn ni’n greadigaeth newydd. Mae ei ras e’n delio ‘n pechod, ein cywilydd, a’n gorffennol. Rhaid i ni ddal gafael yn dynn i’r gwirionedd mae ei eiddo e ydym.
Mae’n fy atgoffa am y goeden yn ein hiard gefn. Pan gafodd ei blannu gyntaf roedd angen polyn metel i’w gynnal a rhoi cadernid iddo. Wrth i amser basio tyfodd y goeden o gwmpas y polyn metel gan ei gwneud yn amhosib i’w dynnu. Nawr mae’r polyn yn rhan o’r goeden. Yn yr un modd, mae gwirionedd Duw’n ein nerthu ni. Os wnawn ni ddal gafael ynddo’n ddigon hir mae’n dod yn rhan o’n hunaniaeth na ellir ei ddwyn oddi arnom.
Cam i’w Gymryd:
Cymrodd Dduw amser i greu’n ofalus pob manylyn sy’n dy wneud yn bwy wyt ti. Mae e’n gweld y ti go iawn ac yn dy garu heb unrhyw amodau. Gad i’r gwirionedd hynny dreiddio o’th mewn. Paid rhedeg oddi wrtho, neu drio’i anwybyddu. Gofynna i Dduw dy helpu i’w gredu a’i wneud yn rhan annatod ohonot ti. Pan fyddi di wirioneddol yn cofleidio dy hunaniaeth yng Nghrist, rwyt yn ffeindio rhyddid oddi wrth y celwyddau sy’n dy lethu, a’r hyder i wynebu unrhyw dreialon.
Dduw Dad, diolch am fy arwain at y cynllun hwn a’m helpu i ddechrau’r daith tuag at fy hunaniaeth ynot ti. Helpa fi plîs i weld y labeli o gelwyddau dw i’n byw o danyn nhw a’u ffeirio gyda’th wirionedd. Helpa fi i stopio cymharu fy hun i eraill a chaniatáu’r llais negyddol sydd ynof i siapio fy hunanddelwedd. Rho lygaid imi weld fy hun fel rwyt ti’n fy ngweld i - yn amddifad, annwyl, dymunol, yn alluog, yn unigryw ddawnus, ac wedi fy nghreu’n hyfryd. Dw i eisiau cael fy niffinio gen ti a dim arall. Dw i’n rhoi i’th wirionedd awdurdod dros fy mywyd ac yn gofyn iti ddangos imi sut fedra i ddefnyddio beth rwyt ti wedi’i roi imi i dyfu dy deyrnas. Diolch am dy gariad diamod nad yw’n fy ngadael yn sownd ble ydw i, ond yn fy nhynnu’n agosach atat ti. Dw i’n dy garu a dy drystio di. Yn enw nerthol Iesu, Amen
Dŷn ni’n gweddïo bod Duw wedi defnyddio’r cynllun hwn i weinidogaethu i’th galon
Am y Cynllun hwn
Gyda chymaint o leisiau yn dweud wrthym ni pwy i fod, does dim syndod ein bos yn stryglo gyda ble mae ein hunaniaeth. Dydy Duw ddim am i ni gael ein diffinio gan ein gyrfa, statws priodasol, na’n camgymeriadau. Mae e eisiau i’w farn e fod yn flaenoriaeth yn ein bywydau. Bydd y cynllun chwe diwrnod hwn yn dy helpu i gymhathu’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am bwy wyt ti a chofleidio dy hunaniaeth yng Nghrist.
More