Newid Bywyd: Cofleidio HunaniaethSampl
Yr Awdurdod ar ein Bywydau
Pan dŷn ni’n ifanc mae gan ein rhieni’r awdurdod neu bŵer i wneud penderfyniadau ar ein rhan. Hyd yn oed wrth i ni dyfu a dod yn annibynnol mae dal angen i ni ddilyn cyfreithiau a rheolau. Mae'r rhain yn ddisgwyliadau yn y gwaith mewn perthnasoedd, ac yn ein diwylliant. Mae’n gryn dipyn i gadw ato, ond yn y pen draw, mae gynnon ni’r dewis i benderfynu barn pwy sydd ag awdurdod yn ein bywydau.
Pan o’n i’n fach, dw i’n cofio dad yn dweud, mos i’n “solet.” Nid fy mrifo oedd ei fwriad, a ro’n i’n gwybod ei fod yn fy ngharu’n angerddol. Ond eto, wnaeth hynny ddim stopio’i sylw deimlo fel colyn. Wnes i adael i’r sylw yna atsain yn fy nghalon am flynyddoedd. Byddai’n fy atgoffa’n gyson na faswn i fyth yn llai, a fyth yn ddigonol.
Falle, fel fi, ges ti dy frifo gan sylw diofal aelod o’r teulu. Falle fod dy fam wedi dweud nad oedd modd rhesymu â thi. Neu doedd dy chwaer ddim eisiau dy gwmni. Falle dy fod yn dibynnu ar ganmoliaeth gan dy fos i deimlo dy fod yn gwneud yn dda. Falle dy fod yn gadael i gyfryngau cymdeithasol dy fod eithafol neu ddiffygiol. Pwy wyt ti'n ei ganiatáu i fod yn awdurdod ar bwy wyt ti a phwy ddylet ti fod? Duw a'i Air ddylai fod yr awdurdod eithaf yn dy fywyd.
Yn efengyl Mathew dŷn ni’n darllen am Iesu a Satan yn cwrdd. Mae Satan yn trio temtio Iesu trwy ymosod ar ei hunaniaeth, drwy ddweud, “Os mai Mab Duw wyt ti” Dw i’n hoffi ateb Iesu! Dydy e ddim yn amddiffynnol, nac yn cael dadl. Mae e’n gwybod pwy yw e: Mab Duw, etifedd yr orsedd Nefol, Brenin Brenhinoedd ac Arglwydd Arglwyddi! Sylwa fel mae Satan yn cwestiynu hunaniaeth Iesu ddwywaith, cyn rhoi'r gorau i'r dacteg honno. Y rheswm am hynny yw nad ydy Satan yn greadigol. Bydd yn dal ati i ymosod gyda’r un ymosodiadau a thaflu celwyddau wrth chwilio am wendidau yn dy arfwisg. Dyna pam fod angen i ni fod yn effro, ac fel Iesu, ymosod yn ôl gydag ein harf gorau.
Mae’r Ysgrythur yn cael ei ddisgrifio fel Cleddyf yr Ysbryd. Pan fyddwn yn ei ddefnyddio i dorri i lawr y celwyddau sy’n hedfan tuag atom ni, dŷn ni’n rhoi’r awdurdod i Dduw dros ein hunaniaeth a gwneud cynlluniau'r gelyn yn ddi-rym. Dŷn ni ddim i fod i osod ein hunaniaeth yn ein gyrfa, ein gorffennol, ein statws priodasol, plant, yr hyn mae pobl yn ei ddweud amdanom, neu’r hyn dŷn ni wedi’i wneud dros ein heglwys. Dydy’r ateb ddim yn dod o’n cymuned, ein beirniaid, neu ein diwylliant. Dim ond Duw ddylai gael awdurdod dros beth dŷn ni’n credu am ein hunain. Mae ein hunaniaeth go iawn yn aros ynddo e’n unig.
Cam i’w Gymryd:
Cymer dy arwain gan Iesu. Gad i’w ymateb i ymosodiad Satan fod yn gynllun brwydr i ti. Paid rhoi cyfle i’r gelyn ddal gafael ynddo ti a gwneud iti amau pwy ges ti dy greu i fod. Dysga sut i ddal Cleddyf yr Ysbryd yn erbyn celwyddau’r gelyn, y disgwyliadau annheg ein byd, a dy hunan-siarad negyddol. Rwyt wedi dy garu, yn deilwng, dy eisiau, ac yn drysor i’th Dad yn y nefoedd. Datgana’r gwirionedd hwnnw drosodd a throsodd nes ei fod yn disodli pa bynnag dwyll rwyt ti wedi caniatáu iddo breswylio yn dy galon. Pwy wyt ti yw, ei annwyl blentyn.
Am y Cynllun hwn
Gyda chymaint o leisiau yn dweud wrthym ni pwy i fod, does dim syndod ein bos yn stryglo gyda ble mae ein hunaniaeth. Dydy Duw ddim am i ni gael ein diffinio gan ein gyrfa, statws priodasol, na’n camgymeriadau. Mae e eisiau i’w farn e fod yn flaenoriaeth yn ein bywydau. Bydd y cynllun chwe diwrnod hwn yn dy helpu i gymhathu’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am bwy wyt ti a chofleidio dy hunaniaeth yng Nghrist.
More