Newid Bywyd: Cofleidio HunaniaethSampl
Y Labeli dŷn ni’n byw o danyn Nhw
does neb yn hoffi cael eu labelu. Mae hynny am fod labeli yn cam-gyffredinoli, yn cyfyngu ac yn anghywir. Maen nhw’n dod gyda set o dybiaethau sy’n gallu bod yn negyddol, ac maen nhw, yn amlach na pheidio yn tynnu sylw at ein ffaeleddau gwaethaf a chamgymeriadau mwyaf. Dydy labeli ddim yn gadael unrhyw le i wahaniaethau, tyfiant, na phrynedigaeth. Tra bod eraill am drio ein labelu, mae’r pŵer gynnon ni i beidio byw o danyn nhw
Pan o’n i’n fy ugeiniau cynnar, ro’n i’n gwisgo’r label o ferch chwantus. Ro’n i’n falch o’m corff ac yn caru cael sylw bechgyn. Fe wnes i sawl dewis annoeth achos do’n i ddim yn gweld fy mod yn haeddu cael fy ngharu. Ro’n i mor doredig fel fy mod i’n setlo ar gyfer teimlo’n hyfryd a rhywiol am ennyd, pan, y cwbl oedd angen arna i oedd gofyn Iesu fy iachau a’m gwneud i’n gyflawn.
Wnes i barhau i stryglo gyda chredu mod i’n deilwng o gariad, hyd yn oed ar i mi ddechrau dilyn Iesu. Fel mam newydd, ro’n i’n poeni mod i’n ddim ond person di-werth oedd dros fy mhwysau a chyda dim i’w gynnig i’r byd, gan nad o’n i wedi gorffen coleg. Roedd pregethau pen wythnos yn fy annog, ond ro’n i’n cael trafferth dod â gwirionedd Duw i mewn i’m mywyd bob dydd. O edrych yn ôl, dw i mor falch na wnaeth e roi fyny arna i. Daliodd ati i roi cyfleoedd imi i wneud pethau dros ei Deyrnas, hyd yn oed pan nad o’n i’n meddwl mod i’n gallu gwneud hynny.
Dŷn ni i gyd ynn gwisgo labeli, pa un ai os ydyn ni’n derbyn y labeli mae eraill yn ei roi arnon ni neu dŷn ni’n eu rhoi arnon ni ein hunain. Yn amlach na pheidio dŷn ni caniatáu i’r labeli hynny ein hatal a dweud nad ydyn ni ddigon da. Jyst. Dŷn ni’n ychwanegu’r gair bach yma pan dŷn ni’n disgrifio ein hunain ac yn caniatáu i’r labeli ein gwneud yn anghymwys. Mae’n siŵr dy fod wedi clywed pobl ddirifedi’n ei ddweud, neu hyd yn oed ti dy hun, “Dw i jyst yn fyfyriwr” neu “Dw i jyst yn gaethiwus”
Y gwir amdani yw, dydy e ddim i wneud â dy oed, statws gwaith, dy ddiagnosis, dy statws priodasol, dy strygl, na dy orffennol. Falle fod y labeli hynny’n disgrifio dy sefyllfa, neu’r hyn ti’n profi, ond mae dy hunaniaeth go iawn yn yr hyn mae Duw’n ei ddweud wyt ti, a dim byd arall.
Rwyt ti’n hyfryd, yn alluog i, a theilwng. Rwyt wedi dy wneud yn newydd yng Nghrist. Chafodd ysbryd o ofn mo’i roi i ti, ond un o gariad, pŵer, a meddwl sicr. Rwyt yn fwy na choncwerwr yng Nghrist sy’n rhoi nerth i ti. Ges ti dy greu ar bwrpas ac i bwrpas. Rwyt wedi dy garu a dy ddewis. Rwyt yn ddigon.
Cam i’w Gymryd:
Meddylia am y labeli rwyt yn eu gwisgo sy’n gwrth-ddweud yr hyn mae Duw’n ei ddweud amdanat ti yn y Beibl. Pa rannau o dy fywyd sy’n gwneud iti deimlo cywilydd? Beth sy’n gwneud iti deimlo’n ansicr fwyaf? Beth wyt ti’n trio’i guddio o’th orffennol am fod gen ti ofn i rywun ffeindio allan? Gofynna i Dduw ddangos iti pa labeli sy’n dy lethu ac i’th helpu i uniaethu dy hunaniaeth gyda gwirionedd Beiblaidd.
Am y Cynllun hwn
Gyda chymaint o leisiau yn dweud wrthym ni pwy i fod, does dim syndod ein bos yn stryglo gyda ble mae ein hunaniaeth. Dydy Duw ddim am i ni gael ein diffinio gan ein gyrfa, statws priodasol, na’n camgymeriadau. Mae e eisiau i’w farn e fod yn flaenoriaeth yn ein bywydau. Bydd y cynllun chwe diwrnod hwn yn dy helpu i gymhathu’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am bwy wyt ti a chofleidio dy hunaniaeth yng Nghrist.
More