Newid Bywyd: Cofleidio HunaniaethSampl
Osgoi’r Trap Cymhariaeth
Wyt ti erioed wedi meddwl, “Taswn i’n denau, fase gen i ŵr,” neu “Taswn i mor glyfar â hi, baswn i wedi cael y dyrchafiad,” neu “Pam na all fy mhlant fod fel rhai hi?” Os wyt ti erioed wedi teimlo diffyg hyder am nad oeddet ti fel rhywun arall, yna rwyt, mwy na thebyg, wedi dy ddal mewn trap cymhariaeth.
Wrth dyfu i fyny byddai bechgyn wastad yn fy nghymharu â fy chwaer. Bydden nhw’n dweud mod i’n iawn, ond fy chwaer oedd y “pishyn” Roedd clywed hynny fel cael fy maglu. Ro’n i gymaint eisiau cael fy nerbyn, ond yn lle, ro’n i’n cael fy mrifo’n barhaus gan gael fy ngwrthod. O’n i’n gwybod, pe bawn i hyd yn oed yn bwyta llai, lliwio fy ngwallt, a gwisgo’r dillad gorau, faswn i fyth run fath â hi, a faswn i fyth yn ddigon.
Yn ddiweddarach mewn bywyd, sefais gan edrych ar Mynyddoedd y “Rockies.” Ro’n i wedi fy syfrdanu gan ba mor fawreddog a hardd ydyn nhw. Sibrydodd Duw yn fy nghalon ei fod wedi creu’r mynyddoedd yma,a fi. Wrth siarad yn dyner â fi a dweud, “Rwyt ti gymaint mwy harddach na’r mynyddoedd,” roedd hi’n anodd gen i amgyffred y syniad fod yr un Creawdwr oedd wedi creu’r dirwedd ysbrydoledig hyn, wedi fy llunio i yng nghroth fy mam a rhoi i mi nodweddion ro’n i’n eu beirniadu. Yn y fan a’r lle wnes i benderfynu, os oedd e’n dweud fy mod yn hardd, roedd angen imi ddechrau credu hynny.
Mae llawer ohonom wedi argyhoeddi ein hunain nad ydyn ni ddigon da. Dydy e ddim o bwys beth ydyn ni eisiau bod - tenau, iach, cryf, clyfar, digrif, - dŷn ni byth yn ddigon. Mewn gwirionedd dŷn ni ond yn cymharu gyda’r hyn a welwn ni ar yr wyneb, ac weithiau mae beth sy’n edrych fel bywyd hawdd, yn boenus. Fe allen ni fod yn cymharu ein hunain i ferch denau, pan fo ganddi hi anhwylder bwyta. Fe allen ni fod y ferch yn y gwaith yn meddu ar y cwbl, ond mae ei phriodas ar chwâl. Fe allen ni fod yn awchu'r teulu perffaith heb sylweddoli eu bod yn dioddef o iselder. Y gwir amdani yw, does neb yn berffaith.
Maen rhai i ni stopio cymharu ein gilydd. Pe byddai Duw wedi bod eisiau i ni fod run fath, byddai wedi creu un mowld perffaith ar gyfer y ddynoliaeth. Yn lle, fe wnaeth e ni’n unigryw. Mae hi mor bwysig ein bod yn deall hyn achos mae’r darlun ohonom ni’n hunain yn siapio sut dŷn ni’n ymwneud â phobl eraill. Mae’n effeithio ar y penderfyniadau dŷn ni’n eu gwneud yn ein bywydau. Pan dŷn ni’n cymharu ein hunain ag eraill, dŷn ni’n fforffedu’r heddwch ddaw gan Dduw, llawenydd a hyder. Fodd bynnag, pan fyddwn yn ffyddlon ein meddyliau at Grist ac uniaethu â’r hyn mae Duw’n ei ddweud amdanom yn y Beibl, dŷn ni’n dilyn ei lwybr ar gyfer ein bywydau. Ac mae’r bywyd mae e eisiau ar ein cyfer yn un llawn.
Cam i’w Gymryd:
Os nad wyt ti wedi datgan fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol, dechreua nawr. Os wyt ti wedi anghofio byw bob diwrnod yn y gwirionedd, dechreua eto. Carchara pob meddylfryd negyddol o “Dw i ddim digon da,” neu “Fe hoffwn i edrych fel hi,” neu “O na fyddai Duw wedi rhoi hwnna i fi.” Rwyt ti’n greadigaeth hyfryd ac unigryw, campwaith wedi ei greu gan Dduw, a dydy e ddim yn gwneud camgymeriadau. Cefaist dy greu ar ddelw Duw. Rwyt ti’n werthfawr. Dewisa gredu hynny.
Am y Cynllun hwn
Gyda chymaint o leisiau yn dweud wrthym ni pwy i fod, does dim syndod ein bos yn stryglo gyda ble mae ein hunaniaeth. Dydy Duw ddim am i ni gael ein diffinio gan ein gyrfa, statws priodasol, na’n camgymeriadau. Mae e eisiau i’w farn e fod yn flaenoriaeth yn ein bywydau. Bydd y cynllun chwe diwrnod hwn yn dy helpu i gymhathu’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am bwy wyt ti a chofleidio dy hunaniaeth yng Nghrist.
More