Dod o hyd i orffwysSampl
Tyrd o hyd i’th Bobl
Cymuned — corff o unigolion sy’n uno â’i gilydd mewn cyfeillgarwch, rhannu agweddau, diddordebau, a’n nod.
Dydy agosatrwydd at Dduw ddim yn golygu cau dy hun i ffwrdd oddi wrth bobl eraill. I ddweud y gwir mae’n golygu gwneud lle iddyn nhw. Mae gorffwys yn gyfle i ddathlu bywyd gyda phobl rwyt yn eu caru. Dŷn ni ddim i fod ar ben ein hunain. Dŷn ni angen ein gilydd.
Meddylia am y math o bobl rwyt ti ei eisiau yn dy fywyd - pobl sy’n dy ysbrydoli i fod yn well, i fod yn fwy fel Iesu. Rwyt ti’n cael dy ddylanwadu’n uniongyrchol gan y bobl rwyt yn treulio’r amser mwyaf gyda nhw. A yw’r bobl rwyt wedi’u caniatáu i fwn i dy fywyd yn dy helpu i dyfu?
Myfyrio:Cysyllta â ffrind heddiw a threfnu i gwrdd, wyneb yn wyneb os elli di, neu cysyllta ar y ffôn neu drwy alwad fideo. Paid gwneud unrhyw drefniadau pendant. Jest trefna i gyfarfod a mwynhewch gwmni eich gilydd. Wedyn, cofnoda unrhyw beth wnaeth Duw ddangos i ti’n ystod yr amser roeddech chi gyda’ch gilydd.
Am y Cynllun hwn
Mae astudiaeth ar ôl astudiaeth yn dweud wrthym fod gorffwys yn gritigol ar gyfer ein hiechyd corfforol, meddyliol, ac emosiynol. Mae gorffwys mor bwysig fel bod Duw, hyd yn oed, wedi’i wneud yn un o’i orchmynion. Dŷn ni’n gwybod y dylem orffwys- felly, pam nad ydyn ni? Yn y cynllun syml 5 diwrnod hwn, wnawn ni edrych ar, pam, pryd, ymhle, a sut dylem orffwys, a hyd yn oed gyda phwy.
More