Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dod o hyd i orffwysSampl

Finding Rest

DYDD 1 O 5

Gwna Orffwys yn Ffrind i ti

Gorffwys—i ymlacio, oedi, anadlu, a bod yn ddedwydd.

Rhodd gan Dduw yw gorffwys dŷn ni’’n tueddu i’w wthio i’r ochr. Ond dydy bywyd heb orffwys ddim yn gynaliadwy. Mae gorffwys yn adfywio ein cyrff, gan roi i ni egni dŷn ni ei angen i anrhydeddu Duw a charu eraill. Mae dysgu i ymarfer gorffwys yn ddisgyblaeth ysbrydol sy’n dy helpu i fwynhau presenoldeb Duw ac aildrefnu dy flaenoriaethau.

Modelodd Duw orffwys i ni o’r dechrau cyntaf, Yn union wedi iddo orffen creu’r bydysawd - a phopeth ynddi - rhoddodd ddiwrnod iddo’i hun i edrych nôl ar ddaioni’r cwbl o’r gwaith roedd newydd ei gwblhau.

MyfyrdodPryd oedd y tro diwethaf y i ti arafu, gwneud dim, ac ymlacio? Stopia. Cau dy lygaid, cymer ambell i anadl ddofn, a bwria olwg dros y dyddiau diwethaf.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Finding Rest

Mae astudiaeth ar ôl astudiaeth yn dweud wrthym fod gorffwys yn gritigol ar gyfer ein hiechyd corfforol, meddyliol, ac emosiynol. Mae gorffwys mor bwysig fel bod Duw, hyd yn oed, wedi’i wneud yn un o’i orchmynion. Dŷn ni’n gwybod y dylem orffwys- felly, pam nad ydyn ni? Yn y cynllun syml 5 diwrnod hwn, wnawn ni edrych ar, pam, pryd, ymhle, a sut dylem orffwys, a hyd yn oed gyda phwy.

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol hwn ei greu a’i ddarparu gan YouVersion.