Dod o hyd i orffwysSampl
Myfyria ar yr Ysgrythur
Gwranda - yn eiddgar, gan dalu sylw meddylgar.
Mae’r Ysgrythur gyfan wedi’i ysbrydoli gan Dduw. Pan fyddwn yn darllen a gwrando ar Air Duw - ac yna’n myfyrio’n weithredol ar yr hyn mae’n ddweud - dros amser dŷn ni’n dysgu i adnabod llais Duw. Mae amser pwrpasol yn y Beibl yn gofyn am ffocws penodol o fid gydag Iesu.
Pan wyt ti’n darllen neu wrando ar y Gair. Rho ddigon o amser i adael i’r geiriau, yr ystyr, y lliw, a’r cyd-destun, lifo drosot ti. Mae YouVersion yn cynnig cannoedd o fersiynau gwahanol o’r Beibl, felly, mae’n hawdd iawn pwyso Dechrau, a gwrando.
Os oes gen ti ddyfais Google neu Amazon reolir gan lais, falle’r hoffet ti wrando ar y Salmau gyda YouVersion Rest. Rho dro ar un o’r canlynol:
“Ok Google, open YouVersion Rest.”
“Alexa, open YouVersion Rest.”
(Gelli hefyd ddod o hyd i’n YouVersion Rest Playlist ar YouTube, a rhoi tro ar YouVersion Rest Video Collection yn yr Ap Beibl.)
Myfyrio: Neilltua 30 munud heddiw i ddarllen a gwrnado ar Air Duw. Yn ystod yr amser hwn, diffodda dy galendr a hysbysiadau. Gwna nodiadau a chofnoda dy feddyliau.
Am y Cynllun hwn
Mae astudiaeth ar ôl astudiaeth yn dweud wrthym fod gorffwys yn gritigol ar gyfer ein hiechyd corfforol, meddyliol, ac emosiynol. Mae gorffwys mor bwysig fel bod Duw, hyd yn oed, wedi’i wneud yn un o’i orchmynion. Dŷn ni’n gwybod y dylem orffwys- felly, pam nad ydyn ni? Yn y cynllun syml 5 diwrnod hwn, wnawn ni edrych ar, pam, pryd, ymhle, a sut dylem orffwys, a hyd yn oed gyda phwy.
More