Mynd Trwy Sefyllfaoedd AnoddSampl
Yr Ystafell Aros
Dŷn ni i gyd wedi clywed pobl yn defnyddio'r ymadrodd "yn y cyfamser" tra maen nhw'n aros am rywbeth. Pan dŷn ni yn yr ystafell aros, y “cyfamser,” yn aros am ein hiachâd neu ein gwyrth, yn aml mae'n eithaf gwael, ond ydyw e?
Felly, beth ydyn ni'n ei wneud yn y cyfamser? Sut ydyn ni’n cadw ein ffydd ac yn trystio bod Duw yn gweithio pan na allwn ni ei weld? Dyma rai awgrymiadau i ni tra byddwn yn aros yn ein brwydr:
Mola e yn dy Boen
Un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud yn ein poen yw addoli Duw. Mae'n deilwng ohono bob dydd. Pan fyddwn yn meddwl am y cyfan y mae e wedi ei wneud i ni a'r tragwyddoldeb y byddwn yn ei dreulio gydag e, sut na allwn ni? Canolbwyntia ar briodoleddau Duw - Mae'n anfeidrol, yn ddigyfnewid, yn holl-bwerus, yn berffaith, yn drugarog, yn rasol ac mae e ym mhobman drwy'r amser. Rhown ogoniant a mawl i Dduw cyn bod y treial yn dod i ben neu’n derbyn y canlyniad y bydden ni’n ei ddymuno.
Dalia Ati
Yng nghanol y boen hon, efallai mai dim ond gwendid o’th ran y byddi di’n ei weld, nid y cyhyrau ysbrydol rwyt ti'n eu tyfu na pha mor gryf rwyt ti’n dod. Ond gyda phob ailadrodd o weddi, addoliad, darllen Gair Duw, a thrystio yn ei addewidion, mae dy ysbryd yn cryfhau. Yn ein gwendid ni y mae ei nerth e’n cael ei berffeithio. Mae llawer yn dweud bod treialon yn ein gwneud, neu'n torri ni. Hydera mai dy un di yn dy wneud di.
Arllwysa Dy Galon
Nid yw'r holl boen rwyt ti'n ei gario yn dychryn Duw. Gall ateb dy gwestiynau, dy ofnau, a hyd yn oed dy ddicter yn llwyr. Dalia ati i ddod ato. Gall treialon wneud inni lynu wrth Grist neu ffoi oddi wrth Grist. Glyna wrtho. Efallai na fyddi di’n n deall pam mae'r caledi hwn yn dal i fod yn bresennol yn dy fywyd. Dyma lle rwyt ti'n rhoi'r gwirionedd rwyt ti wedi'i ddysgu ar waith pan nad oedd pethau'n anodd. Mae'n ildiad dyddiol ac yn ymddiried.
Cadwa dy Olwg ar Dragwyddoldeb
Rhaid i ni gadw ein llygaid yn canolbwyntio ar dragwyddoldeb. Pan fyddwn yn canolbwyntio ar yr hyn a welir, rydym yn canolbwyntio ar y dros dro. Yr anweledig, y ffordd y mae Duw yn gweithio y tu ôl i'r llenni, sy'n dragwyddol. Mae Duw yn cyflawni rhywbeth ynom ni, trwom ni, i ni, ac ydy, hyd yn oed gyda ni. Gad i ni ddewis arddangos amynedd wrth i ni weld ei linell amser berffaith yn dod i ben.
Wrth i ti ddioddef tymor dy ystafell aros, paid â bod ofn edrych yn ôl ac edrych ar dy gynnydd. Achos rwyt ti wedi gwneud cynnydd. Ac yna, dalia ati i gymryd y cam nesaf. Dwyt ti byth yn gwybod pryd rwyt ti'n mynd i ddeffro a gweld toriad yn dy gymylau isel ysbrydol. Efallai mai'r diwrnod rwyt yn credu na elli di gerdded ymhellach yw'r diwrnod y byddi di’n torri tir newydd.
Myfyrio
- Os wyt ti yn yr ystafell aros yn dy fywyd, gofynna i Dduw ddangos rhywbeth y mae'n ei wneud i ti bob dydd a thrwyddo ti.
- O ddarlleniad heddiw o’r Beibl, pa adnod neu ran wyt ti’n cytgord ag e? Gwna nodyn o’th feddyliau.
Am y Cynllun hwn
Mae wynebu sefyllfaoedd anodd yn ein bywydau yn anochel. Ond yn y Cynllun 4 diwrnod byr hwn, byddwn yn cael ein calonogi gan wybod nad ydym ar ein pennau ein hunain, bod gan Dduw bwrpas i’n poen, ac y bydd yn ei ddefnyddio at ei ddiben ehangach.
More