Mynd Trwy Sefyllfaoedd AnoddSampl
Cod dy Galon
Os wyt ti'n mynd trwy gyfnod anodd yn dy fywyd ar hyn o bryd, dwyt ti ddim ar ben dy hun. Yn wir, bydd 100% o bobl y byd yn profi rhyw fath o galedi neu dymor anodd yn eu bywydau. P'un ai wyt ti mewn un nawr, yn dod allan o un, neu'n mynd i mewn i un, maen nhw'n rhan o fywyd. Does neb yn mwynhau mynd trwy amseroedd caled. Meddylia am y peth – wyt ti erioed wedi cwrdd â rhywun a oedd wedi mwynhau mynd trwy gyfnod heriol? Mae'n annhebygol.
Does yna ddim meddyginiaeth y gallwn ei chymryd i gadw trafferthion i ffwrdd a does dim un meddwl cadarnhaol neu siarad i’r hunan fydd yn ein hatal rhag mynd trwy amseroedd caled. Felly, er y gallai deimlo mai ni yw'r unig rai sy'n mynd trwy ein sefyllfaoedd anodd, dydyn ni ddim.
Gallwn gael anogaeth yn yr hyn a ddysgodd Iesu. Dwedodd wrthym yn Ioan 16:33, “trafferthion gewch chi.” Deallodd yr hyn y byddem yn ei erbyn - byd yn llawn o ddrygioni, pechod, casineb, a gelyn ysbrydol sydd am ein difetha ni. Ond diolch byth, dwedodd hefyd y gallwn “godi ein calon” oherwydd “Mae wedi gorchfygu’r byd.” Dydyn ni ddim yn gorfod byw yn ddigalon mewn byd digalon. Gallwn barhau i fyw bywyd llawn, cyfoethog gan wybod yn y diwedd y byddwn ni'n fuddugol.
Daeth Iesu i'r ddaear am un rheswm - dynoliaeth. Daeth i'n hachub ni a chynnig bywyd tragwyddol inni. Ac mae llawer yn cael eu dysgu'n aml, os ydyn ni'n dweud ie wrth Iesu ac yn ei dderbyn fel ein Gwaredwr, na fyddwn yn profi sefyllfaoedd anodd. Dydy hynny ddim yn wir o gwbwl.
Ni fydd darllen y Cynllun hwn yn dileu’r heriau gwirioneddol sy’n dy wynebu, ac ni fydd ychwaith yn cael gwared ar unrhyw dor calon yr wyt yn ei ddioddef. Dŷn ni’n gobeithio mai’r hyn y bydd yn ei wneud yw cynnig rhywfaint o gryfder a dewrder i ti barhau i gymryd y cam nesaf. Does dim rhaid i ti gymryd ugain cam heddiw - cymera yr un nesaf. Ac yna yfory, cymera un arall. Byddwn yn siarad am rai o'r rhesymau y tu ôl i'n poen a sut y gallwn lywio'r ffyrdd brawychus a ddaw yn eu sgil.
Gobeithio, wrth inni drafod y pwnc hwn, y byddi di’n cofleidio cymaint y mae Duw yn dy garu, sut y bydd yn defnyddio dy boen at ei ddibenion, a sut y bydd yn dy newid o'r tu mewn allan. Mae ganddo gynlluniau da ar dy gyfer di, hyd yn oed yn dy boen a thrwyddo. Rydym yn dy annog i ddal ati i weld yn union beth ydyn nhw.
Myfyrio
- Beth sy'n digwydd yn dy fywyd sy'n llenwi dy feddyliau? Gwna nodyn o’r canlyniad rwyt ti ei eisiau.
Am y Cynllun hwn
Mae wynebu sefyllfaoedd anodd yn ein bywydau yn anochel. Ond yn y Cynllun 4 diwrnod byr hwn, byddwn yn cael ein calonogi gan wybod nad ydym ar ein pennau ein hunain, bod gan Dduw bwrpas i’n poen, ac y bydd yn ei ddefnyddio at ei ddiben ehangach.
More