Mynd Trwy Sefyllfaoedd AnoddSampl
Sut mae Duw yn Defnyddio Treialon
Wrth i ni fynd trwy’r tymhorau heriol hyn yn ein bywydau, dŷn ni naill ai’n tyfu trwyddyn nhw neu dydyn ni ddim. Ac nid oes unrhyw farnu os wyt ti'n dal wedi dy siomi gyda Duw pan ddaw amseroedd caled i ti. Dŷn ni i gyd wedi bod yno. Ond, wrth i ni ei geisio, fe gawn ni hyd iddo. Un ffordd y gallwn ddweud bod ein ffydd yn aeddfedu trwy dreialon yw pan fydd ein cwestiynau "pam" yn dod yn gwestiynau "sut".
Sut wyt ti'n mynd i ddefnyddio hwn yn fy mywyd?
Sut fyddi di’n effeithio ar eraill oherwydd y treial hwn?
Sut fyddi di'n sicrhau daioni trwy'r dinistr hwn?
Mae yna ymadrodd poblogaidd yn cylchdroi mewn cylchoedd Cristnogol, a'r ffaith nad yw Duw yn gwastraffu dim. A dyna yn hollol ein gwirionedd llawn gobaith. P’un ai a gawsom ein taflu i amgylchiadau heriol, diangen neu ein dewisiadau yn ein harwain yno, bydd Duw yn defnyddio pob darn ohono i achub ein bywydau, effeithio ar eraill, a derbyn gogoniant. Gad i ni drafod beth mae Duw yn ei wneud â'n poen.
Mae'n ein Newid Ni
Pan dŷn ni'n dioddef trwy ddioddefaint tanllyd sy'n ein brifo ni'n ddwfn, mae'r mwyafrif ohonom eisiau "cael adferiad". Ond er mwyn i ni fod yn wirioneddol well >, rhaid inni fynd drwyddo. Rhaid inni wthio trwy'r boen, gan fynd i'r afael â beth bynnag sy'n torri ein calonnau er mwyn gweld iachâd ar yr ochr arall. Wrth inni fynd drwy'r stormydd yn ein bywydau, byddwn yn gryfach ar ei gyfer.
Mae'n Newid Eraill
Mae llawer ohonom wedi dioddef heriau yn ein bywydau sy'n rhoi profiad i ni na all addysg ffurfiol ei wneud. Efallai nad oes gennym ni radd o'r coleg ond dŷn ni'n arbenigwyr yn ein maes poen. Mae Duw yn gweld hyn ac yn ein hystyried yn lestri i helpu eraill. Mae Paul yn ysgrifennu yn 2 Corinthiaid 1:3 ei fod “yn ein cysuro ni er mwyn inni gysuro eraill.” Nid yw'n caniatáu inni ddod ar draws yr adfyd tywyllaf dim ond i ddweud ein bod wedi gwneud hynny. Na, ei ddymuniad yw inni gymryd y cysur a roddodd i ni a rhannu hynny ag eraill.
Mae Rhufeiniaid 8:28 yn dweud bod Duw “yn trefnu popeth” ac yn gweithio er gwell. Nid mewn rhai pethau neu ychydig o bethau ond yn ym mhobpeth. Cymerodd Duw y peth gwaethaf a allai ddigwydd erioed—Iesu yn marw ar y groes—a’i ddefnyddio er lles pennaf—i iachawdwriaeth yr holl ddynolryw. Po fwyaf yw'r boen, y mwyaf o gyfle sydd i Dduw gael ei arddangos yn hyfryd. Gyda phob stori achubol, mae Duw yn derbyn gogoniant am y ffordd y mae wedi troi'r trasiedïau yn ein bywydau yn fuddugoliaethau.
Ar ddiwrnod olaf y Cynllun hwn, byddwn yn trafod pam fod ein tymhorau heriol yn para’n hirach nag yr hoffem. Ac wrth aros, byddwn yn dysgu sut i drystio mwy yn Nuw a thyfu yn ein ffydd.
Myfyrio
- Beth yw'r treial anoddaf i ti fynd drwyddo? Sut gelli di ddefnyddio dy boen i effeithio ar rywun arall?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae wynebu sefyllfaoedd anodd yn ein bywydau yn anochel. Ond yn y Cynllun 4 diwrnod byr hwn, byddwn yn cael ein calonogi gan wybod nad ydym ar ein pennau ein hunain, bod gan Dduw bwrpas i’n poen, ac y bydd yn ei ddefnyddio at ei ddiben ehangach.
More