Mynd Trwy Sefyllfaoedd AnoddSampl

Pam dŷn ni’n Profi Treialon
O ran treialon yn ein bywydau, un gair sydd fel arfer ar flaen ein gwefusau yw pam. Gan fod treialon yn anodd, yn boenus, ac yn ddiflas, dŷn ni fel arfer yn gofyn, “ Pam mae hyn yn digwydd i mi?” a dydyn ni bron byth yn cael yr ateb dŷn ni'n edrych amdano. Maen nhw'n gwneud i ni amau'r hyn dŷn ni'n ei gredu oherwydd bod ein dymuniadau ein hunain yn cael eu profi.
Fel y dysgon ni ar Ddiwrnod 1, fe ddysgodd Iesu i ni y bydden ni’n cael treialon. Dydy bywyd fel dilynwr Crist ddim yn golygu dim treialon. Mae ein byd yn syrthiedig ac wedi torri gyda phobl syrthiedig a drylliedig sy'n gwneud pethau syrthiedig a drylliedig. Wrth gwrs, bydd treialon. Bydd pobl yn gwneud pethau a fydd yn effeithio arnom ni. Byddwn yn gwneud pethau a fydd yn effeithio ar eraill a ninnau. Efallai nad ydym yn bwriadu gwneud hynny, ond mae ein gweithredoedd yn dal i achosi poen ym mywyd rhywun arall. Efallai hyd yn oed yn ein bywydau ni.
Dyma ychydig o resymau dŷn ni'n mynd trwy dreialon:
Datblygiad Ysbrydol
Waeth sut mae treialon yn dod i mewn i'n bywydau, gellir eu defnyddio fel arf i gryfhau a datblygu ein cymeriad a'n ffydd. Pan fyddwn yn mynd trwy bethau sy'n profi ein hamynedd a'n gwydnwch, gallwn naill ai weithio gyda'r treial a chaniatáu iddo ein cryfhau neu gallwn barhau i ymladd yn ei erbyn. Mae'n hynod o anodd caniatáu amseroedd caled i'n mireinio ond pan fyddwn yn gwneud hynny, mae'r cynnyrch gorffenedig, sy'n fersiwn well, mwy duwiol ohonom ein hunain, yn werth chweil.
Canlyniadau Dewisiadau
Mae yna realiti llym o ran dewisiadau a dyna'r canlyniadau sy'n dilyn. Yn aml, mae ein treialon a’n caledi yn ganlyniad uniongyrchol i sut mae eraill yn byw eu bywydau ac dŷn ni’n byw ein bywydau. Gallwn naill ai ddioddef oherwydd gweithredoedd rhywun arall neu ein gweithredoedd ein hunain. Mae rhai gweithredoedd yn bechadurus, a phan fyddan nhw, dydy'r canlyniadau sy'n ddim yn mynd i fod yn dda.
Ymosodiad Ysbrydol
O ran Satan, ein gelyn ysbrydol, dŷ ni naill ai'n rhoi gormod o gredyd iddo neu rhy ychydig o gredyd. Nid ei fai ef yw pob peth drwg sy'n digwydd i ni ond dealla hyn, mae e’n chwarae rhan yn y sefyllfaoedd anodd sy'n ein hwynebu.
Ar Ddiwrnod 3 y Cynllun hwn, byddwn yn plymio i mewn i Ysgrythurau llawn gobaith a fydd yn dangos i ni fod Duw bob amser yn gweithio i ddefnyddio unrhyw beth a phopeth er ein lles yn ogystal ag i effeithio ar y byd.
Myfyrio
- Meddylia’n ôl am sefyllfa rwyt wedi'i wynebu. Wyt ti'n meddwl ei fod yn brawf i ddatblygu dy gymeriad, o ganlyniad i ddewis, neu ymosodiad ysbrydol? Cofnoda dy feddyliau.
Am y Cynllun hwn

Mae wynebu sefyllfaoedd anodd yn ein bywydau yn anochel. Ond yn y Cynllun 4 diwrnod byr hwn, byddwn yn cael ein calonogi gan wybod nad ydym ar ein pennau ein hunain, bod gan Dduw bwrpas i’n poen, ac y bydd yn ei ddefnyddio at ei ddiben ehangach.
More
Cynlluniau Tebyg

Coda a Dos Ati

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd

Hadau: Beth a Pham

Dwyt ti Heb Orffen Eto

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Rhoi iddo e dy Bryder

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Ymarfer y Ffordd

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw
