Gwrando ar DduwSampl
Dieithryn Peryglus
Mae llawer yng nghorff Crist wedi dod yn fwyfwy agored i dwyll llais y dieithryn. Mae gwrando ar lais Duw yn dod yn her go iawn oherwydd sgwrsio annuwiol cystadleuol. Yn drasig, maen nhw'n dechrau amau cymeriad Duw a'r gwirionedd y mae'n ei ddysgu yn ei Air.
Dŷn i'n gweld tarddiad y broblem hon yn dechrau gyda phreswylydd yr ardd, Efa.
Ysgwn i?
Pam wnaeth Efa, fodloni ar wrando ar giamocs slei'r sarff?
Pam na wnaeth hi sylweddoli mai llais y dieithryn oedd hwn?
Ysgwn i. Pa mor dda oedd Efa'n adnabod ei Bugail?oedd hi'n ymddangos mor hawdd ei thwyllo gan gelwydd y gelyn.
Pam oedd Efa mor hawdd ei thwyllo?
Dw i'n credu, er fod Efa'n gwybod y gwirionedd, doedd hi ddim wedi'i seilio'n gadarn yn y gwirionedd. Roedd hi'n gwybod beth "ddwedodd" Duw ond wnaeth erioed ddeall yn iawn pwy ydoedd - yn gwbl ddibynadwy a da. Doedd hi ddim yn deall na fyddai byth yn dal unrhyw beth da yn ôl oddi wrthi.
Cyn bwyta'r ffrwyth oedd wedi'i wahardd, doedd hi ddim yn ymwybodol o ddrwg, doedd hi ddim yn ymwybodol o gelwyddau, a ddim yn sylweddoli y gallai cael ei thwyllo i anufuddhau i'w Thad.
Ond dydy hyn ddim yn wir i ni. Dŷn ni ddim yn anymwybodol. Clod i Dduw, mae gynnon ni air Duw fel ein canllaw i wirionedd, yr Ysbryd Glân (Ysbryd Gwirionedd) fel ein Cynghorwr, ac Iesu Grist fel ein Gwaredwr a'n Eiriolwr geirwir!
Eto, fel Efa, cawsom ninnau ein llyncu wrth wrando ar gelwyddau'r dieithryn. Pam?
Un rheswm, a hynny'n llawer rhy aml, dŷn ni'n gwahodd celwyddau'r gelyn drwy ein "adloniant" ein hunain. Teledu, Y We, ffilmiau, llyfrau, a chyfnodolion, sydd yn amlach na pheidio yn wag o lais Duw ac wedi traflyncu ein cymdeithasau. Serch hynny, fe wnawn ni dreulio oriau di-ddiwedd gyda'r lleisiau celwyddog ac annuwiol hyn tra bod ein meddyliau a'n calonnau'n cael eu hidlo, llygru, a'u llwgu o Air byw, gweiothgar ac ysbrydoledig Duw!Dŷn ni angen adnabod ein Bugail! Dŷn ni angen bod wedi ein bodloni gan faeth ei feysydd gwyrddion. Dŷn ni angen agosáu ato i ddilyn ei lais.
Paid methu'r darlleniad defosiynol ar gyfer yfory pan fyddwn yn cloi gyda mewnwelediadau defnyddiol am "Dod i Adnabod y Bugail!"
Gofynna i'r Tad: Ydw i'n gwrando ar leisiau eraill sydd heb ddod gennyt ti?
Y gân addoli sy'n cael ei argymell ar gyfer heddiw: My Heart is Yours" Kristian Standfill
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae Amy Groeschel wedi sgwennu'r Cynllun Beibl saith diwrnod hwn, yn y gobaith y bydd yn cael ei gymryd fel petai'n union o galon y Tad, i un ti. Ei gweddi yw y bydd yn dy ddysgu i osgoi r gweddi gwrthgyferbyniol ac yn dy ddeffro i ffocysu ar ei lais.
More