Gwrando ar DduwSampl
Pwy sydd ar dy Fwrdd Cynghori Ysbrydol?
Yn aml fe wnaiff Duw ddatgelu ei ddoethineb i ti drwy ddilynwyr eraill i Grist! Fedra i ddim hyd yn oed ddechrau cyfrif y nifer o weithiau mae Duw wedi defnyddio Cristnogion eraill i gael neges drwodd i'm calon! Dw i'n clywed ei sibrydion drwy fy ngweinidog, podlediad, fy ffrindiau, fy mhlant, blogiwr, neu rywun yn fy LifeGroup. Dw i'n ystyried rhai ohonyn nhw fel fy Mwrdd Cynghori Ysbrydol. Rhain yw: fy mhriod, mentor, partner gweddi, ffrind, a fy rhieni.
Beth amdanat ti? Wyt ti'n chwilio am a gwrando ar credinwyr eraill rwyt ti'n eu parchu? Mae aros mewn cysylltiad cyson â Christnogion eraill (yn arbennig yr rhai hynny sy'n tyfu ac yn gadarn yng Ngair Duw) yn hanfodol ar gyfer dy daith ffydd bersonol.
Dydy gwrnado arnyn nhw ddim yn ddigon. Wyt ti'n aml roi mewn lle neu weithredu ar y cyngor neu ddoethineb rwyt ti wedi'i glywed?
Tala sylw ac aros a pharhau i fod yn rhan o'r gymuned Gristnogol! Gwranda ar dy deulu ffydd. Dŷn ni eu hangen nhw, ac mae nhw dy angen di. Mae darlleniad heddiw o Diarhebion, pennod 18, adnod 2 yn dweud ei bod hi'n gamgymeriad "dim ond lleisio'i farn ei hun."
O'm rhan fy hun, dydw i ddim eisiau chwarae'r ffŵl. Dw i angen help. Dw i angen doethineb. Dw i angen parhau i fod yn ostyngedig ac yn gallu cael fy nysgu, fel fy mod i'n clywed arweiniad Duw, pan mae e'n fy nghywiro, a'i anwyldeb tuag ataf. Dw i angen i'm calon aros yn ostyngedig ac yn gallu cael ei ddysgu - oherwydd bydd Duw'n aml yn siarad drwy ei blant eraill.
Gofynna i'r Tad:Pwy sydd angen bod ar fy Mwrdd o Arweinwyr Ysbrydol?
Awgrym heddiw ar gyfer cân addoliad: "Set Fire" gan Will Reagan ac United Pursuit
Am y Cynllun hwn
Mae Amy Groeschel wedi sgwennu'r Cynllun Beibl saith diwrnod hwn, yn y gobaith y bydd yn cael ei gymryd fel petai'n union o galon y Tad, i un ti. Ei gweddi yw y bydd yn dy ddysgu i osgoi r gweddi gwrthgyferbyniol ac yn dy ddeffro i ffocysu ar ei lais.
More