Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwrando ar DduwSampl

Listening To God

DYDD 5 O 7

Symptomau Clustiau Di-Wrando

Roedd Adda ac Efa yn adnabod Duw yn uniongyrchol! Byddai'r cenedlaethau oedd i ddod o aelodau eu teulu hefyd yn adnabod Duw, neu o leiaf yn gwybod amdano yn dda. Yn araf, dros blynyddoedd lawer, stopiodd y mwyafrif o bobl ddiolch a chydnabod Duw fel eu ffynhonnell. Cynyddodd pechod.

Mae'r rhan fwyaf o bechodau'n ddim mwy na symptomau o bechod dyfnach: y pechod sy'n ein gwneud yn fyddar i wirionedd Duw, ac yn gwrnado ar gelwydd yn lle. Pan fyddwn yn stopio cydnabod Duw fel Rhoddwr popeth da, dŷn ni'n stopio gweld yn glir. Dŷn ni'n stopio meddwl yn ddoeth. Dŷn ni'n gwrthod gwrnado ar y gwirionedd. Mae Rhufeiniaid, pennod yn datgelu'r realiti hwn yn glir.

A dyma ddatganiad i'th sobri: gwrthod gwrnado ar y gwirionedd yw, yn ei hanfod, gwrthod Duw.Nawr, fel Cristnogion, yn amlwg, dŷn ni'n cofleidio Gair Duw. Ond mae'n rhaid i ni gadw ein clustiau'n agored dryw adnabod a gwrthod gwirioneddau ffals, a pharhau i fod yn ymwybodol iawn o lais Duw.

Yr un mor ddifrifol yw’r ffaith bod gwrthodwyr gwirionedd yn aml yn llusgo eraill i’w dwyll, fel y dysgon ni o ddarlleniad heddiw yn Genesis. Meddylia am y cwestiynau hyn. Pwy sydd mewn perygl pan nad wyt ti'n gwrando ar Dduw? Dy briod? Dy ffrindiau? Dy fos? Dy blant? Efallai hyd yn oed dieithryn llwyr yr oedd Duw eisiau i ti weinidogaethu iddo?

Dw i'n meddwl ei bod hi'n amser da i mi stopio sgwennu nawr fel dy fod yn gallu gwrnado mewn gweddi.

Gofynna i'r Tad:A wnei di ddangos i mi unrhyw a phob celwydd dw i'n ei gredu

Awgrym heddiw ar gyfer cân mawl heddiw: “No Other Name” gan Hillsong Worship

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Listening To God

Mae Amy Groeschel wedi sgwennu'r Cynllun Beibl saith diwrnod hwn, yn y gobaith y bydd yn cael ei gymryd fel petai'n union o galon y Tad, i un ti. Ei gweddi yw y bydd yn dy ddysgu i osgoi r gweddi gwrthgyferbyniol ac yn dy ddeffro i ffocysu ar ei lais.

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv