Gwrando ar DduwSampl
Wedi'i Thwyllo gan Awch
Mae tarddiad pechod yn mynd yn ôl at y celwyddau hyn: Tydi Duw ddim yn dda, fedrith neb ei drystio, ac mae e'n dal gafael arnon ni. Mae'r twyll hyn yn parhau heddiw. Ac os nad yw hynny ddigon drwg fel Efa, mae ein chwantau naturiol yn uno gydl a'r celwyddau hyn! Mae ar Satan angen yr holl dwyll yma i geisio ein gwahanu ni oddi wrth Dduw.
Gwelodd Efa'r ffrwyth a meddwl fod yn edrych mor dda a blasus. Cafodd ei hudo a'i hefyd gan y gallu i weld mwy. deall mwy, ac o bosib mwy o bŵer. Byddai fel duw ei hun." Dyna beth oedd twyll.
Beth amdanat ti? Sawl gwaith wyt ti wedi dy oroesi gan flys dy lygaid a dy ddeall cyfyng? Dw i ddim yn ceisio dy ddigalonni di gyda'r cwestiwn yna ond dy rybuddio, fy ffrind, does dim rhaid i bethau fod felly!
Wrth fyw wedi ein cysylltu i lais Duw byddwn yn gallu dilyn ei arweiniad a'i gydnabod e. Rho iddo'r clod, diolchgarwch, a mawl am bob ennyd oherwydd mae e gyda ti! Mae'r cysylltiad dwyfol yma'n golygu ein bod yn daer wrth ei drystio ym mhob sefyllfa ac yn cau ein clustiau a'n llygaid rhag popeth a fyddai'n twyllo ein calonnau a'n meddyliau.
#Nid fy myd i yw'r byd hwn. ac nid un ti yw e ychwaith! Mae nefoedd a daear newydd yn disgwyl am y rhai hynny sydd, gyda dygnwch amynedd, yn parhau i ymddiried yn eu Gwaredwr. Does dim rhaid i ni ofni colli allan ar y “pethau da” oherwydd dŷn ni'n gwybod bod gwobrau tragwyddol mawr yn ein disgwyl. A dŷn ni'n gwybod mai ein Duw ni yw'r unig Stwff Da! Ef yw ein Popeth ym mhopeth, ein Un Digonol, yr Un sy'n Cwblhau!
Gofynna i'r Tad:A oes unrhyw beth y mae angen i mi ei wneud neu ei wybod i gael dymuniad fy nghalon bob amser ynot Ti?
Awgrym ar gyfer cân addoliad heddiw:
“Clear the Stage” gan Jimmy NeedhamYsgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae Amy Groeschel wedi sgwennu'r Cynllun Beibl saith diwrnod hwn, yn y gobaith y bydd yn cael ei gymryd fel petai'n union o galon y Tad, i un ti. Ei gweddi yw y bydd yn dy ddysgu i osgoi r gweddi gwrthgyferbyniol ac yn dy ddeffro i ffocysu ar ei lais.
More