Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!Sampl

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!

DYDD 6 O 6

"Ystyriaeth wrth gloi"


Os nad wyt erioed wedi derbyn Iesu i mewn i'th fywYd, neu fe wnes di ryw dro, ond bellach ddim yn byw Iddo, rwyt yn gallu ymrwymo o'r newydd iddo HEDDIW drwy ddweud gweddi ddidwyll o.'th galon. Gall y weddi fod yn debyg i hyn, 


"Iesu, dw i'n gwybod fy miod yn bechadur, a dim ond ti all fy rhyddhau o gosb pechod. Dw i'n gofyn i ti ddod i mewn i'm mywyd a'm glanhau o'm holl bechod. Helpa fi i fyw er dy fwyn ym mhob rhan o'm mywyd bob dydd. Diolch am ddod i'm mywyd a'm rhyddhau!"


Os wnes di weddïo'r weddi hon gyda didwylledd, gan gredu y bydd Iesu yn gwneud yr hyn wnaeth e addo, rwyt newydd dderbyn iachawdwriaeth, ac wedi newid dy dynged tragwyddol i fod gydag e am byth!


Os wyt ti wedi penderfynu dilyn Crist bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennyt, a darparu mwy o ddefosiynau yn yr Ap Beibl i'th helpu ar dy daith newydd. Dos i'r linc isod:


RWYF WEDI DEWIS DILYN IESU! 

Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!

Mae'r rhan fwyaf o benderfyniadau mewn bywyd o bwys. Fodd bynnag, un sydd bwysicaf. Os wyt ti'n edrych am ganllaw i ddeall dyfnach o'r penderfyniad hynod hwn - Iachawdwriaeth rhad ac am ddim Duw - cychwyna yma. Dyfyniad o “Out of this World; A Christian’s Guide to Growth and Purpose” gan David J. Swandt.

More

Hoffem ddiolch i Twenty20 Faith, Inc. am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://www.twenty20faith.org/yvdevtmp