Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!Sampl

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!

DYDD 3 O 6

"Mae Angen Gwaredwr ar Bawb"




Pan greodd Duw Adda ac Efa, fe'u gwnaeth yn ddi-bechod ac mewn perthynas perffaith ag ef ei hun. Pan wnaethon nhw dorri gorchymyn Duw ym mhennod tri o Genesis, daeth pechod i'w bywydau, a hefyd i weddill y ddynoliaeth. Mae Rhufeiniaid 3:23 yn digrifio penderfynbiad pellgyrhaeddol Adda ac Efa.




am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw..." Rhufeiniaid 3:23




Does neb wedi'u hesgusodi o effaith pechod; ac mae pob un ohonom yn euog. O ganlyniad, dŷn ni i gyd wedi ein gwahanu oddi wrth Dduw. Mae yna ganlyniad tragwyddol i'n pechod hefyd.




"Marwolaeth ydy'r cyflog mae pechod yn ei dalu..." Rhufeiniaid 6:23a




O ganlyniad yw penderfyniad i anufuddhau i Dduw doedd yna ddim dianc i fod o farwolaeth iddyn nhw a gweddil eu disgynyddion (yr hil ddynol), yn gorfforol ac ysbrydol. Yn dilyn eu methiant roedd penderfyniad yn wynebu Duw, un ai i adael pechod redeg ei gwrs gyda'r ddynolryw, fyddai'n arwain at ddifodiant yr hil ddynol, neu ddarparu ffordd o achub dynolryw o afael pechod. Diolch byth, fel arwydd eithafol o'i gariad a gras, darparodd Duw iachawdwriaeth drwy ei Fab. 




“Ydy, mae Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol." Ioan 3:16




"...ond mae Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia." Rhufeiniaid 6:23b




Heb Iesu Grist, tynged dynoloiaeth yw marwolaeth corfforol ac ysbrydol; heb unrhyw eithriadau. Ond i'r rhai hynny ohonom sydd yng Nghrist, er fod marwolaeth corfforol dal yn ein disgwyl, dyw marwolaeth ysbrydol (Uffern) ddim. Yn hytrach, mae bywyd tragwyddol yn y nefoedd yn ein disgwyl ar ôl gadael y ddaear. Drwy aberth perffaith Iesu Grist, a'i atgyfodiad o farwolaeth, dŷn ni'n osgoi cosb ysbrydol pechod!

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!

Mae'r rhan fwyaf o benderfyniadau mewn bywyd o bwys. Fodd bynnag, un sydd bwysicaf. Os wyt ti'n edrych am ganllaw i ddeall dyfnach o'r penderfyniad hynod hwn - Iachawdwriaeth rhad ac am ddim Duw - cychwyna yma. Dyfyniad ...

More

Hoffem ddiolch i Twenty20 Faith, Inc. am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://www.twenty20faith.org/yvdevtmp

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd