Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!Sampl

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!

DYDD 5 O 6

"Bedydd Trochiad- datganiad Cyhoeddus o Fywyd  wedi'i newid"




Mae bedydd trochiad yn ffordd bwysig i ddatgan yn gyhoeddus dy iachawdwriaeth. Mae bedydd trochiad yn dathlu diwedd un bywyd a dechrau un newydd. Dysgodd Iesu i'w ddisgyblion bwysigrwydd bedydd trochiad  ychydig cyn ei esgyniad i'r nefoedd ar ôl yr satgyfodiad. Dywedodd: 




Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a'u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â'r Tad, a'r Mab a'r Ysbryd Glân. Mathew 28:19




Yn y Testament Newydd mewn sawl man mae yna storïau dirifedi o gredinwyr yn cael eu bedyddio. Mae yna symbolioaeth arwyddocaol i'r un sydd yn cael ei fedyddio, ac i'r rhai sy'n dystion. Mae bedydd trochiad yn darlunio diwedd dy fywyd blaenorol drwy gael dy drochi o dan y dŵr, a dechrau'r bywyd newydd yng Nghrist wrth godi allan o'r dŵr werdi dy lanhau, puro a'th wneid yn greadigaeth newydd yn Nuw. 




Mae Luc 3:3 yn cynrychioli bedydd trochiad fel "bedydd o edifeirwch", ac yn pwysleisio pwysigrwydd datgan yn gyhoeddus ein bod wedi troi oddi wrth ein hen fywyd a phechod. Tra nad yw bedydd trochiad  yn ein harbed na chuddio ein pechod, mae yn cynrychioli rhan allweddol o'n bywyd Cristnoigol - datganiad dy fod yn greadigaeth newydd ac yn fywyd wedi'i newid! Os fyth oedd unrhyw berson nad oedd angen gwneud y datganiad hwn, Iesu oedd hwnnw, fu'n byw bywyd dibechod ar y ddaear. Ond mae Luc 3:21 yn dweud,




"Pan oedd Ioan wrthi'n bedyddio'r bobl i gyd, dyma Iesu'n dod i gael ei fedyddio hefyd. " Luc 3:21




Cafodd Iesu ei fedyddio fel ein bod ni yn dilyn ei esiampl. Does dim posib gorbwysleisio pwysigrwydd bedydd trochiad. Os nas wyt wedi derbyn bedydd trochiad eto, dylet  ystyried ei wneud yn flaenoriaeth. Mae'r Beibl yn ein hannog i wneud datganiad cyhoeddus o'n iachawdwriaeth, ac mae'r rhan helaeth o eglwysi sy'n credu'r Gair yn paratoi sawl cyfle i gaerl bedydd trochiad. Mae dilyn esiampl iesu yn talu ar ei ganfed. Bydd Duw yn bendithio'n helaeth a'th wobrwyo am dy ffyddlondeb ac ufudd-dod iddo!

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!

Mae'r rhan fwyaf o benderfyniadau mewn bywyd o bwys. Fodd bynnag, un sydd bwysicaf. Os wyt ti'n edrych am ganllaw i ddeall dyfnach o'r penderfyniad hynod hwn - Iachawdwriaeth rhad ac am ddim Duw - cychwyna yma. Dyfyniad ...

More

Hoffem ddiolch i Twenty20 Faith, Inc. am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://www.twenty20faith.org/yvdevtmp

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd