Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!Sampl

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!

DYDD 2 O 6

"Cefais dy greu gan Dduw gyda thragwyddoldeb mewn golwg"


Pan  gawson ni'n creu gan Dduw roedd ganddo lawer mwy na chynllun 70 neu 80 mlynedd ar gyfer ein bodolaeth. Mae ei gynllun yn pontio ein bywyd daearol a'n un nefol (tragwyddol). Mae Iago 4:14 yn disgrifio'r gwahaniaeth rhwng y ddwy elfen hon o'n bodollaeth fel hyn:


"Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory! Dydy'ch bywyd chi yn ddim byd ond tarth – mae'n ymddangos am ryw ychydig, ac yna'n diflannu!"


Dych chi wedi clywed y dywediad, "Mae bywyd yn fyr." Yng nghyd-destun tragwyddoldeb mae'r Beibl yn dweud,


"...mae pawb yn mynd i farw un waith, a wynebu barn ar ôl hynny." Hebreaid 9:27


Bydd pawb yn marw'n gorfforol. Ond diwedd ein corff ffisegol yw marwolaeth, nid felly ein henaid. Mae ei henaid, neu'n hymwybyddiaeth mewnol yn dragwyddol. Bydd ein henaid yn treulio tragwyddoldeb mewn un o ddau le - Nefoedd neu Uffern. 


Paradwys tragwyddol, ble mae Duw yn byw, ydy'r Nefoedd.

Cael ein gwahanu oddi wrth Dduw yn llwyr yw Uffern.


Roedd ein genedigaeth naturiol i mewn i'r byd hwn, nid yn unig yn ddechrau i'n bodolaeth dros dro ar y ddaear, ond hefyd ein bywyd ysbrydol yma, a hyd at dragwyddoldeb. Felly, o ystyried tragwyddoldeb, byddai rhai efallai yn dweud bod ein bywyd daearol yn ddibwys, ond dyw hynny, yn syml, ddim yn wir. Mae dy dynged tragwyddol yn dibynnu mewn gwirionedd ar dy benderfyniadau tra rwyt yma ar y ddaear; a'r pwysicaf; y penderfyniad i wneud Iesu Grist yn Arglwydd ar dy fywyd. Mae iachawdwriaeth ar gael i bawb drwy iesu Grist, a thrwy ef yn unig y gallwn newid ein tynged o fyw wedi ein gwahanu oddi wrth Dduw, i dreulio tragwyddoldeb gyda Duw yn y nefoedd. Dywedodd Iesu:


“Fi ydy'r ffordd...yr un gwir a'r bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi."  Ioan 14:6


Mae'r penderfyniadau wnawn yn ystod ein bywyd daearol yn bwysig am resymau eraill hefyd. Gall y ffordd dŷn ni'n byw fel credinwyr effeithio ar dynged tragwyddol y rhai hynny sydd ddim eto'n adnabod Iesu Grist fel Gwaredwr. Pob dydd mae'r rheiny sydd o'n cwmpas yn ein gwylio'n byw ein hesiampl o Grist. Fel Cristnogion, mae Duw yn defnyddio pob un ohonom i ddod â nefoedd i'r rheiny sydd o'n cwmpas sydd hyd yn hyn ddim yn ei adnabod. Dywedodd Iesu: 


“Chi ydy'r golau sydd yn y byd...Dyna sut dylai'ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli'ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi'n eu gwneud." Mathew 5:14-16

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!

Mae'r rhan fwyaf o benderfyniadau mewn bywyd o bwys. Fodd bynnag, un sydd bwysicaf. Os wyt ti'n edrych am ganllaw i ddeall dyfnach o'r penderfyniad hynod hwn - Iachawdwriaeth rhad ac am ddim Duw - cychwyna yma. Dyfyniad o “Out of this World; A Christian’s Guide to Growth and Purpose” gan David J. Swandt.

More

Hoffem ddiolch i Twenty20 Faith, Inc. am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://www.twenty20faith.org/yvdevtmp