Cofio'r cyfan mae Duw wedi'i wneud. Sampl
Mae Salm 91 yn sôn am ffyddlondeb Duw. Dŷn ni'n darllen ei fod yn ein hamddiffyn. Mae e'n gaer. Dŷn ni'n saff dan ei gysgod ac mae e'n ein hamddiffyn. Mae'r Salm, yn ei hanfod, yn dangos fod Duw yn ffyddlon bob amser, beth bynnag yw'r sefyllfa. Mae e yna mewn cyfnodau da, a phan nad yden nhw gystal. Mae e yna, hyd yn oed os nad yden ni'n meddwl ei fod e yna. Mae taith bywyd pawb yn wahanol wrth iddyn nhw dyfu yng Nghrist, ond mae ffyddlondeb Duw run fath bob tro. Sut wyt ti wedi profi ffyddlondeb duw drwy dy fywyd? Cymer amser heddiw i gofio ei ffyddlondeb a sut mae wedi dy arwain drwy amrywiol gyfnodau o'th fywyd. Diolcha i Dduw am ei ffyddlondeb a chymer gysur yn y ffaith ei fod gyda ti bob amser.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Ein tueddiad naturiol i edrych i'r dyfodol, ond ni ddylem byth anghofio y gorffennol. Mae'r cynllun hwn wedi'i lunio ar dy gyfer dros gyfnod o bum niwrnod fel dy fod yn cofio'r cyfan mae Duw wedi'i wneud i'th siapio i'r math o berson yr wyt ti heddiw. Byddi'n derbyn darlleniad a defosiwn byr bob dydd fydd wedi'u creu i'th helpu i gofio'r prif ddigwyddiadau ar dy daith gydag Iesu.
More
We would like to thank Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.life.church