Cofio'r cyfan mae Duw wedi'i wneud. Sampl
Mae Duw yn rymus. Does dim yn amhosib iddo. Gall symud mynyddoedd, gwneud i'r haul sefyll yn ei le, a gwella'r rhai sy'n sâl. Yn Josua, pennod 4 dŷn ni’n darllen fel y cwblhaodd y dasg enfawr o arwain yr Israeliaid i wlad yr addewid. Arweiniodd Duw yr Israeliaid allan o gaethwasiaeth i ryddid fel roedd wedi'i addo. Oherwydd mawredd yr hyn a wnaeth doedd Duw ddim am i'r Israeliaid fyth anghofio yr hyn wnaeth e drostyn nhw. Roedd Duw am iddyn nhw gofio am byth yr wyrth wnaeth e drostyn nhw a'i fod yn Dduw mor rymus a nerthol. Meddylia nôl am funud. Mae Duw wedi cyflawni rhai pethau anhygoel yn dy fywyd. Efallai ei fod wedi cyflawni gwyrth o iachau neu dy arwain allan o rwymau dibyniaeth ac i mewn i'th wlad o addewid personol dy hun. Cymra beth amser heddiw i gofio'r pethau grymus mae Duw wedi eu gwneud drosot ti. Rho glod iddo ac addo na fyddi fyth yn anghofio y pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud drosot.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Ein tueddiad naturiol i edrych i'r dyfodol, ond ni ddylem byth anghofio y gorffennol. Mae'r cynllun hwn wedi'i lunio ar dy gyfer dros gyfnod o bum niwrnod fel dy fod yn cofio'r cyfan mae Duw wedi'i wneud i'th siapio i'r math o berson yr wyt ti heddiw. Byddi'n derbyn darlleniad a defosiwn byr bob dydd fydd wedi'u creu i'th helpu i gofio'r prif ddigwyddiadau ar dy daith gydag Iesu.
More
We would like to thank Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.life.church