Cofio'r cyfan mae Duw wedi'i wneud. Sampl
Gweithred o gofio yw'r cymun. Yn adnod 19 mae Iesu'n dweud, "Dyma fy nghorffi, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i."Wrth gymuno dŷn ni'n cofio aberth eithaf Iesu drosom ar y groes am ein pechodau. Cymer amser heddiw i gofio am aberth Crist. Mae gen ti fywyd newydd oherwydd ei farwolaeth a'i atgyfodiad, felly paid anghofio'r aberth eithaf a wnaeth Crist ar ein rhan. Mae dy ddyfodol wedi newid am byth. Os wyt yn teimlo'n gyfforddus i wneud beth am gymuno heddiw; gwna fel y gwnaeth Iesu ei orchymyn, a chofia ef wrth i ti gyfranogi o'r sacrament sanctaidd.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Ein tueddiad naturiol i edrych i'r dyfodol, ond ni ddylem byth anghofio y gorffennol. Mae'r cynllun hwn wedi'i lunio ar dy gyfer dros gyfnod o bum niwrnod fel dy fod yn cofio'r cyfan mae Duw wedi'i wneud i'th siapio i'r math o berson yr wyt ti heddiw. Byddi'n derbyn darlleniad a defosiwn byr bob dydd fydd wedi'u creu i'th helpu i gofio'r prif ddigwyddiadau ar dy daith gydag Iesu.
More
We would like to thank Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.life.church