Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog, yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Fy noddfa a'm caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.” Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr, ac oddi wrth bla difaol; bydd yn cysgodi drosot â'i esgyll, a chei nodded dan ei adenydd; bydd ei wirionedd yn darian a bwcled. Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos, na rhag saeth yn hedfan yn y dydd, rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch, na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd. Er i fil syrthio wrth dy ochr, a deng mil ar dy ddeheulaw, eto ni chyffyrddir â thi. Ni fyddi ond yn edrych â'th lygaid ac yn gweld tâl y drygionus. Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa; gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa; ni ddigwydd niwed i ti, ac ni ddaw pla yn agos i'th babell. Oherwydd rhydd orchymyn i'w angylion i'th gadw yn dy holl ffyrdd; byddant yn dy godi ar eu dwylo rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg. Byddi'n troedio ar y llew a'r asb, ac yn sathru'r llew ifanc a'r sarff. “Am iddo lynu wrthyf, fe'i gwaredaf; fe'i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw. Pan fydd yn galw arnaf, fe'i hatebaf; byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder, gwaredaf ef a'i anrhydeddu. Digonaf ef â hir ddyddiau, a gwnaf iddo fwynhau fy iachawdwriaeth.”
Darllen Y Salmau 91
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 91:1-16
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos