Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yn Bryderus am DdimSampl

Anxious For Nothing

DYDD 6 O 7

Beth os allet ti foli Duw hyd yn oed ynghanol poen? Profodd Brian bryder arweiniodd i rai symptomau corfforol hefyd. Ond drwy ei brofiad, wnaeth e ddarganfod bod ganddo lot i ddiolch i Dduw amdano. Dyma’r stori:

Wnes i ddelio gyda phryder difrifol gyntaf rai blynyddoedd yn ôl wrth fyw mewn gwlad estron, yn ystod cyfnod heriol yn fy mywyd. Wrth drio dysgu iaith newydd, dechrau busnes, bod yn olau i Grist ble nad oedd prin yna eglwys, a magu gefeilliaid blwydd oed, roedd hi fel mod i’n raddol ddisgyn i lawr i ddyffryn tywyll du.

Dros gyfnod o nifer o fisoedd, wnes i ddioddef o boenau yn y frest, cur pen a salwch arall fuodd yn gatalydd i ofn a chonsyrn yn wahanol i unrhyw beth ro’n i wedi'i brofi erioed. Hyd at y pwynt hwn yn fy mywyd, doeddwn i ddim wedi brwydro pryder fawr ddim, ac os dw i’n onest, ro’n i’n falch fel un oedd yn un oedd yn mentro’n hyderus. Ond buan iawn ddechreuais i fynd ar ôl senarios gwaethaf posib - yn argyhoeddedig fod rhywbeth difrifol o’i le arnaf i neu bydde rhywbeth ofnadwy’n digwydd i’m teulu.

Mae pobl yn gofyn a oedd fy mhryder yn amgylchiadol, yn ffisiolegol neu'n ysbrydol. Ar ôl ystyried hyn am gryn amser, dw i’n eithaf sicr mai’r ateb yw “oedd.” Dw i’n credu’n aml fod nifer o bethau’n chwarae eu rhan. Mae gan straen ffordd o ferwi i bwynt lle mae hyd yn oed y rhai sydd â'r goddefgarwch uchaf yn agored i'w rym cynyddol.

Hefyd, fel gwendidau corfforol eraill neu salwch, gall rhai ohonom brofi cyfnodau pan mae cemegau’r corff yn anghytbwys. Yn ychwanegol i hyn, mae ein gelyn ysbrydol fel un sy’n achub ar y cyfle i ymosod, gan ein taro yn llefydd hynny sy’n wan ynom.

Yn sialens Paul i fod yn bryderus am ddim yn Philipiaid, pennod 4, adnodau 6 i 7, mae’n galw arnom, nid yn unig i weddïo, ond i ddiolch hefyd. Nid yw cyd-destun cyfarwyddyd Paul ar gefn buddugoliaeth nac ar ôl derbyn datblygiad gwyrthiol. Mewn gwirionedd, roedd Paul ei hun yn wynebu sefyllfa go wael. Roedd yn sgwennu at yr eglwys yn Philipi o’r carchar ac yn wynebu dyfodol eithaf ansicr. Ac eto, mae ei lythyr yn adlewyrchu ei lawenydd dwfn ac agwedd o lawenhau.

Felly, ynghanol ein poen, gallwn ninnau lawenhau.

Dw i ddim yn meddwl fod Paul yn gofyn i ni fod yn annidwyll yn ein diolchgarwch. Dw i’n meddwl fod Paul yn ein herio i fod yn ddiolchgar ble dylem fod yn ddiolchgar, hyd yn oed ynghanol pa bynnag strygl dŷn ni’n mynd drwyddo ar y pryd.

Dw i wedi ffeindio nad oes gen i fyth ddim i’w ddathlu. Hyd yn oed rai o’r treialon anoddaf dw i wedi’u hwynebu, mae yna wastad bethau dw i wedi bod yn ddiolchgar amdanyn nhw. Mae myfyrio ar y rheiny a diolch iddo e’n helpu i drawsffurfio fy mhersbectif ac aildanio fy meddwl.

Mae gormod o feddyliau negatif yn gallu creu synnwyr cyffredinol o dynged sydd ar ddod. Ond hyd yn oed wrth ddangos fy niolchgarwch i Dduw drwy weithred ddisgyblu orfodol, dw i’n aml yn profi’r pwysau’n codi.

Dydy hynny ddim i ddweud fod hyn yn rhyw fformiwla chwareus ar gyfer bywyd dibryder. Ond, mae’r egwyddor o foli Duw, hyd yn oed drwy boen, yn llwybr tuag at ei bresenoldeb sy’n rhoi bywyd, ac yn cynnig heddwch i ni.

Brian

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Anxious For Nothing

Beth os oes yna ffordd arall i frwydro'n erbyn y pryderon diddiwedd sy'n dy gadw'n effro drwy'r nos? Mae gorffwys go iawn ar gael - yn nes nac wyt ti'n feddwl. Ffeiria panig gyda heddwch gyda'r Cynllun Beibl 7 niwrnod hwn gan Life Church, sy'n mynd gyda chyfres negeseuon Peter Groeschel, Anxious for Nothing.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/

Cynlluniau Tebyg