Yn Bryderus am DdimSampl
“Dw i’n meddwl mod i’n mynd i farw”
Dyna’n union feddyliais i fi fy hun ar sawl noson ddigwsg y llynedd. Baswn i’n trio disgyn i gysgu, dim ond i gael fy neffro wedi nychryn am fawr ddim rheswm. Roedd fy mrest yn dynn. Ro’n i’n teimlo mod i’n tagu, ac ro’n i’n methu anadlu ar brydiau. Roedd hyn yn cylchdroi, felly doedd gen i ddim dewis ond mynd i gysgu ar y soffa fel mod i’n stopio deffro fy ngwraig.
Un diwrnod, es i at y doctor a disgrifio fy symptomau – y boen yn y frest, y trafferth i ddisgyn i gysgu, a’r profiadau o banig. Ar ôl un neu ddau o brofion dros nifer o ymweliadau, wnaeth e wneud diagnosis o bryder. Allaf i fod yn onest? Fe wnaeth e imi deimlo’n fethiant fel Cristion. Onid o’n i wedi bod yn gweddïo am hyn yn y ffordd iawn? Dw i ddim i fod i ddelio â hyn, Byddwn i’n meddwl i’n hun, Dw i fod i gael heddwch ac nid pryder – dyna ddwedodd Iesu i’w wneud! Ar ôl dilyn cyfsarwyddiadau’r doctor a chymryd dos bach o feddyginiaeth, wnes i barhau i weddïo ar bryder i fynd ffwrdd. Doeddwn i ddim eisiau delio ag e ddim mwy.Yn 2 Corinthiaid, pennod 12, yn ferswin beibl. net disgrifiodd Paul fel y bu iddo “ddioddef poenau corfforol.” Tra bo ni ddim yn gwybod beth oedd “poen corfforol” Paul, gall pryder deimlo fel hyn i lot o bobl, gan gynnwys fi. Dwedodd Paul ei fod wedi pledio gyda’r Arglwydd dair gwaithi’w gymryd oddi arno, ond yn lle, dwedodd yr Arglwydd wrtho, “ Mae fy haelioni i'n hen ddigon i ti. Mae fy nerth i'n gweithio orau mewn gwendid.” Felly dw i'n hapus iawn i frolio am beth sy'n dangos mod i'n wan, er mwyn i nerth y Meseia ddal i weithio trwof fi.” (ychwanegwyd pwyslais)
Mae gras Iesu’n ddigonol, waeth beth y sefyllfaoedd. Wrth imi ddechrau gweddïo am wellhad, dechreuais agosáu at Iesu. Fel Paul, dydy Duw heb gymryd “mhoen” i ffwrdd Fodd bynnag, dw i wedi ffeindio mod i’n awchu i ddarllen ei Air, a dw i wedi gweddïo mwy nag ydw i wedi’i wneud erioed o’r blaen.
Ro’n i’n meddwl mai cael fy ngwella o’m mhryder oedd angen. Mewn gwirionedd ro’n i angen mwy o Iesu. Nawr, dw i ddim yn dweud baswn i heb ddioddef o bryder tawn i wedi bod yn agosach at Iesu. Dw i hefyd ddim yn mynd i stopio gweddïo ar i’r pryder fy ngadael. Dw i’n dal i weddïo, fel Paul, ar i’r poen fy ngadael.
Ond mae rhywbeth gymaint gwell n digwydd imi na chael fy iachau ar amrantiad o bryder. Dw i’n datblygu dealltwriaeth ddyfnach o Dduw a chael perthynas gyfoethocach ag e.
Yn lle dim ond gweddïo am heddwch, dw i wedi ffeindio d i’n agosach at Dywysog Heddwch. Pan ws i ddechrau poeni am fy nyfodol atgoffais fy hun mai e yw’r Alffa a’r Omega – dechrau a’r diwedd, y cyntaf a’r olaf.
Gweddïais i fy mhryder fy ngadael, ond fe wnes iffeindio rhywbeth gymaint gwell, presenoldeb llethol, cariadus Iesu yn fy mywyd - hyd yn oed yng nghanol pryder.
-Jordan
Am y Cynllun hwn
Beth os oes yna ffordd arall i frwydro'n erbyn y pryderon diddiwedd sy'n dy gadw'n effro drwy'r nos? Mae gorffwys go iawn ar gael - yn nes nac wyt ti'n feddwl. Ffeiria panig gyda heddwch gyda'r Cynllun Beibl 7 niwrnod hwn gan Life Church, sy'n mynd gyda chyfres negeseuon Peter Groeschel, Anxious for Nothing.
More