Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yn Bryderus am DdimSampl

Anxious For Nothing

DYDD 3 O 7

Ydy heddwch yn bosibl mewn gwirionedd heddiw? Aeth Cheri ar daith 11 mlynedd yn ôl i ddarganfod yr ateb. Dyma wnaeth hi ddarganfod ar y daith:

Dw i’n cofio’n glir iawn y diwrnod y penderfynais i a allwn i fyw fel hyn ddim mwy.

Dyma ble ro’n i, dilynwr ymroddedig i Grist, yn ymateb i fywyd fwy neu lai fel pawb arall. Ro’n i’n byw fy mywyd mewn ofn a phryder, ac eto ro’n i’n gwybod na ddylai fod felly! Yn gyson, ro’n i’n darllen Gair Duw i beidio bod ag ofn, na phryder am ddim byd. Ond roedd hynny’n swnio’n amhosib!

Mae gan Dduw lawer i’w ddweud yn y Beibl am ofn a’i driniaeth: heddwch. Un tro, roedd Iesu a’i ddisgyblion mewn cwch yn croesi Môr Galilea pan gododd storm fawr gan fygwth eu suddo nhw. Wnaeth bob un ohonyn nhw frwydro i aros ar yr wyneb, a beth oedd Iesu’n ei wneud? Roedd e’n cysgu’n drwm ynghanol y storm.

Dwedodd y disgyblion wrtho, “Athro, wyt ti ddim yn poeni ein bod ni'n mynd i foddi?” Cododd Iesu a cheryddu'r gwynt, a dweud wrth y tonnau, “Distaw! Byddwch lonydd!” Ac yn sydyn stopiodd y gwynt chwythu ac roedd pobman yn hollol dawel. Yna meddai wrth ei ddisgyblion, “Pam dych chi mor ofnus? Ydych chi'n dal ddim yn credu?” Marc, pennod 4, adnodau 38 i 40

Roedd hynny fwy neu lai’r sgyrsiau ro’n i’n cael efo Duw. Ro’n i’n gallu ei glywed yn gofyn imi pam o’n i ofn, a ro’n i’n ateb, Ydy e ddim yn amlwg? Edrych ar fy sefyllfa! Pwy fydde ddim yn ofni?

Ar fy nhaith i i chwilio am hedwch daeth sawl peth yn glir fel grisial.

  1. Roedd fy sefyllfa i’n pennu fy lefel i o heddwch. Os oedd sefyllfaoedd bywyd i gyd yn iawn, yna ro’n i mewn lle heddychlon. Os oedd stormydd yn cylchdroi o’m cwmpas, ro’n i dan straen, yn bryderus, ac yn flinedig drwy’r adeg - wedi ymladd o ganlyniad i’m hemosiynau. Ro’n i run fath yn union â’r disgyblion yn y storm. Ro’n i’n ofni’r storm, wedi brifo, ac yn ffwndrus achos mod i’n meddwl nad oedd ots gan Dduw. Ond daeth Iesu â fi i’m pwynt nesaf.
  2. Roedd Iesu’n trio dysgu imi fod heddwch yn bosib, waeth beth yw’r storm. Wyt ti’n uniaethu â’r frwydr hon? Dydy e ddim yn hawdd yw e? Ro’n i’n dal i stryglo i ddeall sut allai Iesu ddisgwyl imi brofi heddwch mewn storm, yn pendroni os oedd o bwys ganddo o gwbl, pan sylweddolais fy narganfyddiad nesaf.
  3. Wnaeth fy stormydd ddadlennu fy lefel o dryst. Dydy heddwch ddim yn golygu fod popeth yn mynd i fod yn iawn yn dy fywyd. Mae’n golygu teimlo heddwch pan mae stormydd yn ysgwyd dy fywyd. Do’n i heb ddysgu trystio Duw a ffeindio heddwch yn y stormydd hynny. Wyt ti wedi taro’r pared eto?

Roedd hi’n amlwg bod yna le imi dyfu. Ond dw i’n dysgu fod y llwybr hwnnw at heddwch i’w gael drwy drystio a hoelio ein meddyliau ar yr Un sydd fyth wedi cynhyrfu mewn stormydd. Wnaeth e ddim digwydd dros nos, ond gam wrth gam, wnaeth mwy o heddwch a gorffwys adfywio fy enaid blinedig.

-Cheri

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Anxious For Nothing

Beth os oes yna ffordd arall i frwydro'n erbyn y pryderon diddiwedd sy'n dy gadw'n effro drwy'r nos? Mae gorffwys go iawn ar gael - yn nes nac wyt ti'n feddwl. Ffeiria panig gyda heddwch gyda'r Cynllun Beibl 7 niwrnod hwn gan Life Church, sy'n mynd gyda chyfres negeseuon Peter Groeschel, Anxious for Nothing.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/

Cynlluniau Tebyg