Yn Bryderus am DdimSampl
Rhedeg i Ffwrdd
Mae byw gyda phryder yn teimlo lot fel bywyd o redeg i ffwrdd - ond dy fod yn rhedeg i ffwrdd o'th fywyd dy hun. Mae panig yn gafael ynot wrth iti geisio dianc i le diogel sy'n ymddangos ychydig tu hwnt i gyrraedd. Mae pryderon yn troi a throsi'n dy ben mor gyflym fel na elli di brin anadlu, ac mae ofn yn codi i'r wyneb gan achosi diffyg penderfyniad a hunan amheuaeth.
Swnio'n gyfarwydd? Mae yna bwysau diddiwedd i fyth i oedi mewn bywyd - dydy ebyst byth yn stopio, mae hysbysiadau yn pentyrru ar ein ffonau, a gad i ni beidio anghofio'r trap cymhariaeth ddaw gyda'r cyfryngau cymdeithasol. Felly sut mae byw gyda hynny, pan dŷn ni'n gwybod ein bod, fel dilynwyr i Grist, yn cael ein galw i fywyd o beidio pryderu am ddim?
Yn llawer rhy aml, dŷn ni'n cael ein llethu gan euogrwydd achos dŷn ni'n meddwl nad ydy Cristnogion i fod i deimlo fel hyn.
Ond beth petawn ni'n gallu stopio rhedeg i ffwrdd o rywbeth a dechrau rhedeg at rhywun?
Dŷn ni'n gallu. Mi fedri dithau. Nid yw'r addewid y gallwn fyw'n bryderus am ddim yn seiliedig ar yr hyn y gallwn ei gynhyrchu ond ar bresenoldeb Duw. Cymer olwg ar beth mae'n ei ddweud yn Philipiaid, pennod 4, adnodau 6 i 7 beibl.net:
Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. Byddwch chi'n profi'r heddwch perffaith mae Duw'n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a'ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.
Ar ben ein hunain dŷn ni dda i ddim yn y frwydr yn erbyn pryder. Ond gyda Duw mae gynnon ni fynediad at ei bresenoldeb, sy'n cynnig heddwch na allwn ddechrau ei amgyffred.
Beth sydd hyd yn oed yn well am yr addewid hwnnw? Mae'n broses barhaol. Ym mhob sefyllfa. Pob tro y byddwn yn dechrau teimlo'n bryderus, gallwn fynd at Dduw am ei heddwch, achos mae ei heddwch yn deillio o'i bresenoldeb.
Yn amlach na pheidio wnaiff pryder ddim diflannu ar amrantiad. Mae'n broses barhaol funud wrth funud o chwilio am ei bresenoldeb. Dros y dyddiau nesaf wnawn ni rannu storïau am bobl gyffredin sydd wedi brwydro gyda phryder a'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu ar hyd y ffordd.
Eisiau dysgu mwy am fyw Anxious for Nothing?Cymer olwg ar y gyfres negeseuon cysylltiedig i ffeindio mwy o heddwch.
Os wyt ti'n stryglo gyda'r anhwylder o bryderu, mae'n bwysig i chwilio am yr help rwyt ei angen. Os wyt ti'n meddwl fod gen ti anhwylder o bryderu, dos i weld dy ddoctor. Dydy chwilio am help ddim yn dy wneud yn wan; mae'n dy wneud yn ddoeth.
Am y Cynllun hwn
Beth os oes yna ffordd arall i frwydro'n erbyn y pryderon diddiwedd sy'n dy gadw'n effro drwy'r nos? Mae gorffwys go iawn ar gael - yn nes nac wyt ti'n feddwl. Ffeiria panig gyda heddwch gyda'r Cynllun Beibl 7 niwrnod hwn gan Life Church, sy'n mynd gyda chyfres negeseuon Peter Groeschel, Anxious for Nothing.
More