Dechrau perthynas gydag IesuSampl
"Beth nesaf?"
Mae bod yn Gristion yn golygu "bod yn" Iesu. Yn syml, rwyt yn dechrau perthynas o "ufudd-dod" iddo ac "aros" ynddo. Beth mae hyn yn ei olygu? Mae'n golygu dy fod yn ceisio tyfu yn dy berthynas gydag e drwy ddod â dy galon, enaid, meddwl, a nerth yn gyfangwbl i'r berthynas (Marc 12:30 a Luc 10:27).
Dyma bum ffordd dŷn ni'n aros mewn perthynas gyda Iesu Grist:
Mewn perthynas â Christnogion eraill
Pobl yw'r eglwys sydd wedi mynd i fewn i berthynas gyda Iesu ac felly wedi cael maddeuant ganddo ac eisiau byw er ei fwyn ef. Mae bod yn aelod o eglwys yn help i dyfu mewn perthynas â Iesu. Yn yr eglwys, gydag eraill sy'n credu, dŷn ni'n dysgu, tyfu, gofyn cwestiynau, gwasanaethu, a cheisio ac addoli Duw gyda'n gilydd.Dan arweiniad Duw, drwy ddarllen a dysgu'r Beibl
Wrth i ti dyfu yn dy berthynas gyda Iesu Grist, fe wnei di ddechrau dysgu mwy am y Beibl. Gair Duw yw'r Beibl, ac mae'n un o'r ffyrdd pwysicaf iddo'i ddefnyddio i ddatgelu ei hun a'i ddymuniad a bwriad mewn bywyd i ni. Po fwyaf y doi di i adnabod y Beibl, gymaint mwy y byddi'n dod i adnabod Duw ei hun.Sgwrsio gyda Duw trwy weddi
Mae pwrpas gweddi yn union fel unrhyw sgwrs fwriadol arall: i dyfu'n agosach mewn perthynas ystyrlon. Mae hyn yn golygu fod gweddi yn cwmpasu ystod eang o bynciau. Mae gweddi yn golygu rhannu syniadau, gwrando, gofyn cwestiynau, gofyn am help, siarad yn eglur er mwyn cael dy ddeall, cyfaddef a dweud dy fod yn sori, dweud diolch, neu dim ond bod gyda'ch gilydd.
Cymryd camau drwy wasanaethu
Mae cymryd camau trwy wasanaethu, gofalu, dangos gofal tuag at eraill yn fynegiant o gariad Duw tuag at bobl, ac mae'n ffordd arwyddocaol o dyfu mewn perthynas gyda Iesu. Pam? Oherwydd dyna wnaeth Iesu. Fe ddwedodd, "...des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu'r pris i ryddhau llawer o bob” (Marc 10:45).
dangos cariad at Dduw drwy addoli
Addoliad yw'r ffordd bwriadol o ddangos ein diolchgarwch a'n gwerthfawrogiad a syndod i Dduw. Gall addoliad fod yn weithred unigol neu gyda miloedd o eraill mewn stadiwm. Gall gymryd lle mewn eglwys neu ar ddolydd y mynydd. Addoliad yw dy fynegiant dilys a gonest tuag at Dduw.
Os wyt wedi mwynhau'r cynllun hwn ac am gyflw i ennill y llyfr cyfan y daeth ohono, clicia yma
Am y Cynllun hwn
Ai dim ond megis dechrau mewn ffydd yn yr Iesu wyt ti? Wyt ti eisiau gwybod mwy am Gristnogaeth ond ddim yn siŵr beth -neu sut - i ofyn? Felly dechreua yma. Wedi'i gymryd o'r llyfr, "Start Here" gan David Dwight a Nicole Unice.
More