Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dechrau perthynas gydag IesuSampl

Beginning A Relationship With Jesus

DYDD 5 O 7

"Hunaniaeth Newydd"

Mae'r hawl i fod yn blant i Dduw yn bosib drwy Iesu; a'r newyddion anhygoel ydy; oherwydd Iesu, mae Duw yn dweud yr un peth amdanom ni. Wyt ti'n barod? Dyma ni: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i'n llwyr” (Marc 1:11).

Oherwydd Iesu, mae Duw yn dweud yr un fath am ti a ddwedodd e am Iesu. Yn y datganiad hwn, mae Duw yn cadarnhau gymaint o ddifygion yr ydym yn ymwybodol ohonyn nhw, sy'n rhan o'n hunaniaeth - yr awch hwnnw sy'n corddi o'n mewn i gael perthyn, ein caru, a'n cydnabod. Cymer sylw o'r dair elfen benodol yma o addewid:

1. Ti ydy fy Mab...

Pan mae Duw yn dweud, "Ti ydy fy Mab," mae e'n uniaethu ei hun â ni. Mae e'n dweud ei fod eisiau cysylltu â ni a bod gyda ni.

Y pwynt cyntaf yma yw, fod Duw yn dweud ein bod yn bobl mae e am fod gyda ni, Mae e'n dweud, "Ie, dyna fy merch, dyna fy mab." Dydy e byth wedyn yn torri'r cysylltiad â ni, ar ôl i ni ddod yn blant iddo. Dyna braf ei fod mor garedig er gwaetha ein hymddygiad gwael ar brydiau!

Yr un rwy'n ei garu

Weithiau, mewn perthynas deuluol falle dydyn ni dddim yn hoff o'n gilydd, heb sôn am garu ein gilydd. Os oes yna aelod o'r teulu dwyt ti ddim yn ei hoffi, efallai dy fod yn teimlo. Mae'n rhaid cydanbod ei fod yn frawd i mi ond dw i ddim yn ei hoffi.

Ond nid yw Duw fel hyn. Nid dim ond dweud "Ie, dyna fy mab," mae e, mae'n honni hefyd, "Dw i'n caru'rmab yma. Dw i'n hoff iawn ohono. Mae fy nghalon ganddo ac yna ar ei gyfer e."

Rwyt ti wedi fy mhlesio i'n llwyr

Mae Duw yn coroni'r datganiad drwy ddweud, "... rwyt ti wedi fy mhlesio i'n llwyr” Mae Duw, yr un osododd y sêr yn eu lle, yn dweud ei fod yn falch ohonot ti. Nid yn falch o rywun arall ond ohonot ti.

Wrth i ni dyfu a sylweddoli dyfnder cariad Duw atom, mae'r cadarnhad o'i gariad yn araf lenwi'r lleoedd gwag yn ein heneidiau ble mae yna ddifyg hunaniaeth. Ar ôl bod yn chwilio gymaint am gadarnhad, ceisio bod yn bwysig, teimlo'n bwysig, cael ein hedmygu, cael ein parchu - mae gennym nawr ateb. Nid gan bobl, nid gan bethau materol sydd ddim yn ein bodloni, nid gan enw aruchel neu ein safle mewn cymdeithas...ond gan Dduw.

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Beginning A Relationship With Jesus

Ai dim ond megis dechrau mewn ffydd yn yr Iesu wyt ti? Wyt ti eisiau gwybod mwy am Gristnogaeth ond ddim yn siŵr beth -neu sut - i ofyn? Felly dechreua yma. Wedi'i gymryd o'r llyfr, "Start Here" gan David Dwight a Nicole Unice.

More

Hoffem ddiolch i David Dwight, Nicole Unice, a David C cook am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.dccpromo.com/start_here/