Dechrau perthynas gydag IesuSampl
Rheolau yn erbyn Perthynas
Os wnei di chwiliad sydyn am ddiffiniad o Gristnogaeth, rwyt yn debygol o ffeindio rhywbeth fel "dilyn dysgeodiaeth Iesiu." A mae hynny'n wir - mae Cristnogaeth ynglŷn â dilyn dysgeidiaeth Iesu. Ond y broblem ydy fod y rhan helaeth o bobl yn troi "dilyn Iesu" yn "ddilyn rheolau" - a nid hynny yw'r amcan.
Mae stori'r Beibl yn ei gwneud hi'n glir mai'r ffordd i adnabod Iesu yw cael perthynas ac nid dilyn rheolau. Wrth i ti gychwyn pori drwy'r Beibl i weld beth mae Duw yn ei ddweud am ei hun, rwyt yn mynd i ddarganfod mai'r peth pwysicaf yw dy fod wedi dy ymrwymo ag e mewn perthynas llawn cariad.
Felly, mae dweud mai prif syniad Cristnogaeth yw dilyn pwyntiau dysgu fel dweud mai prif syniad priodas yw rhannu biliau'r cartref. Ddim yn union beth fydden ni'n ei ddisgwyl mewn stori o gariad enfawr!
Mae'r safbwynt hwn o reolau yn erbyn perthynas yn pennu'r gwahaniaeth rhwng Cristnogaeth a chrefyddau eraill. Ble mae'r rhan helaeth o grefyddau arall yn dysgu mai'r ffordd i "fod yn dda" yw drwy weithredoedd angenrheidiol a chredoau llym. Mae safbwynt Cristnogaeth yn dechrau o fan gwahanol.
O'r cyfnodau cynharaf doedd dilynwyr Iesu ddim yn cael eu cydnabod am ddilyn rheolau neu "bod yn dda". Yr hyn oedd yn hollol amlwg - y peth oedd werth sôn amdano oedd eu bod mewn realiti "wedi bod gyda Iesu" (Actau 4:13). Nid eu bod yn cydnabod Iesu, ddim eu bod yn dilyn patrwm ymddygiad Iesu, ond eu bod "gydag" e.
Bod gyda Iesu oedd y rheswm fod y pobl hyn wedi cael eu traswnewid o fod yr hyn mae'r Beibl yn ei alw'n "ddynion cyffredin di-addysg" i fod yn arweinwyr dewr, eofn, A dyna'r run realiti mae Iesu yn ei gynnig i ni pan mae'n ein gwahodd i berthynas i "fod gydag e."
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Ai dim ond megis dechrau mewn ffydd yn yr Iesu wyt ti? Wyt ti eisiau gwybod mwy am Gristnogaeth ond ddim yn siŵr beth -neu sut - i ofyn? Felly dechreua yma. Wedi'i gymryd o'r llyfr, "Start Here" gan David Dwight a Nicole Unice.
More