Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dechrau perthynas gydag IesuSampl

Beginning A Relationship With Jesus

DYDD 3 O 7

"Y Capten Go Iawn"

Un ffordd o ddisgrifio Iesu yw, fel achubwr ar berwyl i achub. Pan ddwedodd Iesu, "Fi ydy'r ffordd, yr un gwir a'r bywyd.," Wnaeth o ddim dweud "Dw i'n ffordd ac yn wirionedd ac yn fywyd."

Mae ein cwestiwn iddo yn debyg i'n cwestiynau i gapten yr awyren neu'r llong yr ydym arni oherwydd ein bod am wybod, "Ai ti yw'r capten go iawn? (Mab Duw)?"

Wrth i fywyd fynd yn ei flaen mae llawer ohonom yn colli diddordeb yn y cwestiwn hwn. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn ddigon bodlon i gael sedd gyda digon o le i'r coesau ar yr awyren. A dydy'r rhan fwyaf ohonom ddim yn wynebu marwolaeth gyda'r un math o ddwysder pe byddem ar long wrth iddi suddo. Bod â hyder yn y capten yw'r prif gwestiwn yn y ddwy gyffelybiaeth yma.

Ar y llong, dy ffydd (neu ddiffyg ffydd) fyddai'n gwneud y gwahaniaeth. Felly hefyd gyda Iesu. Os mai ymgais i achub sydd yma, dŷn ni'n llai tebygol o ddweud, "Fe alla i fynd pa bynnag ffordd dw i eisiau." Wrth gwrs gallet ti wneud hynny, ond os mai fe yw'r capten, yr un sy'n gwybod pob manylyn o fodolaeth dynol, yna, fe sydd yn gwybod y ffordd go iawn.

Neu falle, wrth ddechrau pori drwy'r Beibl, rwyt yn dechrau gofyn i ti dy hun, "Ydw i'n credu, o ddifri, ei fod e yn gwybod y ffordd?"

Os wyr ti'n darllen y cynllun hwn, falle dy fod wedi, neu eto i, ofyn y cwestiwn hwn. Neu falle dy fod wedi dweud, "Ydw dw i'n credu. Ond mae mwy o gwestiynau gen i." Os mai ti sy'n gofyn, dŷn ni gyda ti ac yna ar dy gyfer di. Dalia ati i ofyn cwestiynau. Drwy gwestiynau da dŷn ni'n tyfu. Dydy amheuon ac ansicrwydd ddim yn anghyffredin.

Ond gad i ni ddweud dy fod yn cytuno fod Iesu yn gwybod y ffordd. Os yw hynny'n wir, y cwestiwn cyntaf gen ti, o bosib, fydd, "Beth sydd raid imi wneud i ddechrau ar y ffordd honno?"

"Dyma ble mae Iesu yn ein synnu. Dydy o ddim yyn dweud, ~"Dilyn hyn." Mae e'n dweud, "Dilyn fi." Wnaeth capten y llong ddim pwyntio at fap, fe wnaeth e bwyntio at ei hun. Mae Iesu ei hun, hefyd, yn pwyntio at ei hun, ac mae'n ein gwahodd ni i wneud ymrwymiad iddo.

Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Beginning A Relationship With Jesus

Ai dim ond megis dechrau mewn ffydd yn yr Iesu wyt ti? Wyt ti eisiau gwybod mwy am Gristnogaeth ond ddim yn siŵr beth -neu sut - i ofyn? Felly dechreua yma. Wedi'i gymryd o'r llyfr, "Start Here" gan David Dwight a Nicole Unice.

More

Hoffem ddiolch i David Dwight, Nicole Unice, a David C cook am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.dccpromo.com/start_here/