Iesu: Baner ein BuddugoliaethSampl
Buddugoliaeth dros Demtasiwn
Does gynnon ni ddim angen neb i'n hatgoffa fod temtasiwn yn bodoli - fu erioed amser ble mae gymaint o'r byd i'w weld, dim ond ar glic botwm. Yden ni'n stopio a meddwl am y ffyrdd penodol hynny mae satan yn ceisio ein temptio? Mae'n rhaid i ni ddeall sut mae temtasiwn yn gweithio, fel ein bod yn gallu amddiffyn ein hunain rhagddo.
Yn Genesis temtiwyd Efa drwy gwestiynu Gair Duw a'i gymhellion, ac fe ddaeth pechod a marwolaeth i'r byd o ganlyniad i'w hymateb. Yn 2 Samuel dewisodd Dafydd i aros adre yn ystod "yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela", ac anfon eraill i ymladd yn ei le. Pe byddai Dafydd wedi bod ble y bwriadodd Duw iddo fod, fyddai e erioed wedi bod ar ben ei hun ar y to fflat i weld Bathseba. Y canlyniad yw gweld anffyddlondeb a llofruddiaeth yn dod i mewn i stori Dafydd. Pan arweiniwyd Iesu i fynd i'r anialwch gan yr Ysbryd yn Mathew 4, ceisiodd satan demtio Mab Duw drwy ddyfynnu'r Ysgrythur.
Mae'r gelyn yn gweithio'n gyson i'n gwneud i gwestiynu Gair Duw, ei gynllun, a'i gariad tuag atom. Os all satan ein dal yn y fagl hon, mae'n lethr llithrig fydd yn cyflwyno anhrefn a phoen i mewn i'n bywydau. Ond mae Iesu yn gwybod sut beth yw cwestiynu Duw - i ddweud y gwir mae e wedi profi pob math o demtasiwn dŷn ni'n ei brofi - ac mae e wedi gwneud ffordd i ni ei wrthod a cherdded mewn rhyddid. Pan dalodd Iesu ddyled pechod ar y groes, torrodd rym y gelyn oddi wrth ddynolryw. Oherwydd ei aberth dŷn ni ddim dan afael awdurdod satan.
Mae'n bwysig nodi fod cerdded gyda Iesu yn ei fuddugoliaeth yn cymryd ymdrech bwriadol o'n rhan ni. Rhaid i ni gydnabod, yn ddyddiol, y bydd y gelyn yn ymdrechu i ail gymryd ei le yn ein bywydau, ac ymateb drwy aros yn wyliadwrus, gan adeiladu amddiffynfeydd yn ein bywyd o ryddid yn yr Iesu, gan ofyn i Dduw am help yng ngwyneb temtasiwn, ac amgylchu ein hunain gyda ffrindiau ymroddedig fydd yn ein dal yn atebol. Dwedodd Paul yn Effesiaid 6 y dylem yn fwriadol wisgo amdanom arfwisg Duw er mwyn gwneud safiad yn erbyn triciau slei y diafol.
Wrth barhau yn ystod wythnos y Pasg hon, atgoffa dy hun fod Iesu wedi trechu pŵer ỳr un drwg yn dy fywyd. Diolcha i Dduw am roi'r nerth i ti fyw mewn rhyddid oddi wrth temtasiwn, a gofyn iddo os oes angen bod yn fwy gwyliadwrus mewn rhannau eraill o'th fywyd. Bydd e yn dy helpu i adnabod y mannau gwan a'th arfogi i sefyll yn erbyn y gelyn. Ym muddugoliaeth Iesu chei di mo'th drechu.
Lawrlwytha ddarlun heddiwyma.
Am y Cynllun hwn
Pan fyddwn yn dathlu'r Pasg dŷn ni'n dathlu'r fuddugoliaeth fwyaf mewn hanes. Drwy farwolaeth Iesu a'i atgyfodiad. gorchfygodd am byth bŵer pechod a'r bedd, a'r holl oblygiadau oedd yn dilyn, a dewisodd rannu; r fuddugoliaeth hynny gyda ni. Ar y penwythnos Pasg hwn, gad i ni dreiddio i mewn i rai o'r `cadarnleoedd orchfygwyd ganddo, myfyrio ar y frwydr drosom, a'i foli fel Baner ein Buddugoliaeth.
More