Iesu: Baner ein BuddugoliaethSampl
Buddugoliaeth dros Euogrwydd
Un o amcanion Satan yw i ni fyw yn nhywyllwch euogrwydd ein gorffennol, Mae Satan yn gwybod, hyd yn oed os ydyn ni'n gwybod fod Iesu wedi marw dros ein pechodau, ond yn dal i gario euogrwydd ein pechod, fyddwn ni ddim yn derbyn bendith a rhyddid ei faddeuant, go iawn. Byddwn yn byw yng nghysgod ein pechod gwaetha'. Yn Ioan 9:5, mae Iesu yn cyfeirio at ei hun fel "golau'r byd" Ond yn Mathew 5:14 ac 16 dwedodd Iesu hefyd, "Chi ydy'r golau sydd yn y byd. Mae'n amhosib cuddio dinas sydd wedi'i hadeiladu ar ben bryn...Dyna sut dylai'ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli'ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi'n eu gwneud." Fydde Duw fyth yn disgwyl i ni fod yn fod yn olau ar gyfer ei ysblander heb ei fod wedi darparu ffordd allan o dywyllwch euogrwydd.
Mae Salm 103: 10-12 yn dweud wrthym fod cariad Duw tuag atom yn fwy na allen ni fyth ei ddychmygu, a'i fod wedi pellhau ein pechod mor bell oddi wrthym fel na allwn fyth amgyffred y pellter. Pan farwodd Iesu ar y groes, cymrodd bwysau pechod oddi ar y rheiny sy'n credu, am byth. Gallwn nawr dderbyn heb unrhyw dâl ei faddeuant, byw heb euogrwydd, a theimlo ein bod wedi ein croesawu a'n cofleidio ym mhresenoldeb Duw.
Wrth i ni agosáu at ddathlu atgyfodiad Iesu, gadewch i ni gofio fod ei farwolaeth, nid yn unig wedi ein prynu o'n pechod, ond yr hawl i daflu i ffwrdd pwysau euogrwydd. Mae dyled dy bechod, hyd yn oed dy bechod gwaetha', wedi'i dalu gan waed Iesu. Cerdda yn ei ryddid heddiw!
Lawrlwytha ddarlun heddiwyma.Am y Cynllun hwn
Pan fyddwn yn dathlu'r Pasg dŷn ni'n dathlu'r fuddugoliaeth fwyaf mewn hanes. Drwy farwolaeth Iesu a'i atgyfodiad. gorchfygodd am byth bŵer pechod a'r bedd, a'r holl oblygiadau oedd yn dilyn, a dewisodd rannu; r fuddugoliaeth hynny gyda ni. Ar y penwythnos Pasg hwn, gad i ni dreiddio i mewn i rai o'r `cadarnleoedd orchfygwyd ganddo, myfyrio ar y frwydr drosom, a'i foli fel Baner ein Buddugoliaeth.
More