Iesu: Baner ein BuddugoliaethSampl
Buddugoliaeth dros Bechod
Pan wnaeth Adda ac Efa anufuddhau i Dduw a bwyta'r ffrwyth o goeden gwybodaeth da a drwg yng Nghardd Eden, daeth pechod yn rhan o natur y ddynolryw. Byth oddi ar hynny mae'r ddynoliaeth wedi'u geni a'u gwahanu oddi wrth Dduw, o ganlyniad i'r pechod hwnnw. Am fod Duw yn berffaith dydy e ddim yn gallu bod yn agos at bechod. Yn yr Hen Destament roedd yn rhaid i'r Israeliaid aberthu oen heb ddim o'i le arno, a hynny'n aml, i wneud yn iawn am bechod. Roedd yn rhaid i'r aberth fod yn berffaith i dalu am bechod - dyma oedd yr unig ffordd y gallai person fod yn iawn yng ngolwg Duw.
Mae Iesu yn cael ei gyfeirio ato yn aml fel "Oen Duw" oherwydd ei aberth e dros ddynoliaeth. Un o nifer o wyrthiau'r groes yw ei fod wedi gwrthdroi melltith Adda ac Efa: Yn union fel y gwnaeth un weithred o bechod wahanu'r ddynoliaeth oddi wrth Dduw, fe wnaeth aberth un person perffaith wneud yn iawn am bechod pawb gan arwain at gymodi. Oherwydd fod Iesu wedi cynnig ei Hun yn ein lle, mae gynnon ni'r cyfle i fod mewn perthynas â Duw eto. Pan mae Duw yn edrych arnom, dydy e ddim yn gweld ein pechod - mae'n gweld cyfiawnder ei Fab.
Wrth i ni droedio i mewn i wythnos y Pasg eleni, treulia beth amser yn myfyrio ar y rhodd anhygoel roddodd Iesu i ni pan aberthodd ei hun yn dâl am ein pechod. Mae'r apostol Paul yn dechrau Rhufeiniaid:23 drwy ddweud, "Marwolaeth ydy'r cyflog mae pechod yn ei dalu." Roedden ni i bob pwrpas yn farw yn ein cyflwr anghyfiawn, wedi ein gwahanu'n dragwyddol oddi wrth Dduw. Ond mae Paul yn parhau yn yr adnod gyda'r gwirionedd achubol eithafol, "ond mae Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia." Oherwydd Iesu, mae dyled ein pechod ni wedi'i dalu, a chawn fod yng nghwmni Duw am byth.
Hefyd, gan fod Duw wedi ein gorchuddio â'i gyfiawnder dŷn ni'n rhydd o rym pechod yn ein bywydau. Paid a chael dy gaethiwo yn dy hen natur bechadurus. Mae Iesu wedi ennill y frwydr dros bechod, ac wedi rhannu'r fuddugoliaeth gyda ti! Rwyt wedi dy ryddhau i ryddid. Cerdda ynddo!
Lawrlwytha ddarlun heddiw yma.
Am y Cynllun hwn
Pan fyddwn yn dathlu'r Pasg dŷn ni'n dathlu'r fuddugoliaeth fwyaf mewn hanes. Drwy farwolaeth Iesu a'i atgyfodiad. gorchfygodd am byth bŵer pechod a'r bedd, a'r holl oblygiadau oedd yn dilyn, a dewisodd rannu; r fuddugoliaeth hynny gyda ni. Ar y penwythnos Pasg hwn, gad i ni dreiddio i mewn i rai o'r `cadarnleoedd orchfygwyd ganddo, myfyrio ar y frwydr drosom, a'i foli fel Baner ein Buddugoliaeth.
More