Iesu: Baner ein BuddugoliaethSampl
Buddugoliaeth dros Ofn
Yn ein byd heddiw, sydd wedi ei gorlwytho gan newyddion ac yn boddi mewn llif o adroddiadau drwg, mae'n hawdd iawn cael ein gorlethu gan ofn. Dŷn ni ofn yr anesboniadwy, ofn poen a cholled, ofn nad oes gennym beth sydd ei angen i lwyddo. Ond pan groeshoeliwyd ein Gwaredwr di-fai dros ein pechod, dangosodd i ni gariad perffaith. Gorchfygodd pŵer y cariad hwnnw ganlyniadau pechod a thywyllwch yn ein byd, gan gynnwys ofn.
Mae 1 Ioan 4:18 yn dweud. "mae cariad perffaith yn cael gwared ag ofn yn llwyr." Drwy arddangos ei gariad eithaf ar y groes, hawliodd Iesu fuddugoliaeth dros ofn, ac mae e'n ein gwahodd i rannu yn ei fuddugoliaeth. Mae e am i ni fyw gyda heddwch yn ein meddwl, calon ac ysbryd. Ond mae rhaid i ni dderbyn a cherdded ym mhŵer buddugoliaethus ei gariad. Yn Rhufeiniaid 8:38 dwedodd Paul ei fod yn hollol sicr fod dim byd yn gallu'n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw. Mae'r cyfle gynnon ni hefyd i fod yn ddisigl o hyderus yng nghariad Duw atom a byw yn yr heddwch ddaw o'r cariad hwnnw. Os wyt erioed wedi cwestiynu ehangder cariad Duw tuag atat, y cwbl sydd raid i ti ei wneud yw edrych tuag at y groes.
Pan fydd ofn yn cnocio ar y drws mae dewis gennyt i'w wneud: Gadael iddo dy lethu, neu gofio weithred buddugoliaethus Iesu a dewis credu ei fod ef wedi ennill y frwydr dros heddwch i ti. Pan mae pob dim i'w weld yn mynd o'i le yn dy fyd, saf yn gadarn gan wybod nad oes gan ofn unrhyw bŵer drosot. Hawlia ei heddwch e a cherdda ymlaen, yn hyderus dy fod wedi dy gofleidio gan ei gariad!
Lawrlwytha ddarlun heddiwyma.
Am y Cynllun hwn
Pan fyddwn yn dathlu'r Pasg dŷn ni'n dathlu'r fuddugoliaeth fwyaf mewn hanes. Drwy farwolaeth Iesu a'i atgyfodiad. gorchfygodd am byth bŵer pechod a'r bedd, a'r holl oblygiadau oedd yn dilyn, a dewisodd rannu; r fuddugoliaeth hynny gyda ni. Ar y penwythnos Pasg hwn, gad i ni dreiddio i mewn i rai o'r `cadarnleoedd orchfygwyd ganddo, myfyrio ar y frwydr drosom, a'i foli fel Baner ein Buddugoliaeth.
More