Pan fydd Ffydd yn Methu: 10 Diwrnod o ddod o Hyd i Dduw yng Nghysgod AmheuaethSampl
Os mai cartref yw bywyd ffydd, yna amheuaeth yw'r ffordd y mae'n rhaid i ni ei cherdded i gyrraedd yno. Wrth gwrs, mae heriau ar y llwybr: peryglon, unigrwydd, ing, ofn, cwestiynau. Mae’r gair cwestiwnyn dod o’r Lladin quaerere, o ble cawn y gair cwest. Mae cwest fel antur, yn llawn rhwystrau. Mae yna gost i bob galwad. Mae’r mynyddoedd yn ddirdynnol o anodd ei dringo. I’r rhan fwyaf o bobl, dyna sut olwg sydd ar fynd adref. Mae eraill dw i’n adnabod (ac yn eiddigeddus) ohonyn nhw, yn cael amser llawer haws. Mae’r daith gartref fel ffordd bedair lôn, neidia i mewn i’r car ac rwyt ti wedi cyrraedd. Mae eraill, fel di, ar lwybr mwy hamddenol.
Pa bynnag ffordd dŷn ni ar y ffordd yna.
A’r naill ffordd a’r llall dŷn ni ddim ar ben ein hunain.. . .
Dŷn ni’n ddryslyd ac yn unig., yn chwilio a chwalu drwy’r rwbel am bwrpas. Mae gynnon ni ddwy sgript. Mae un yn dweud does dim pwrpas. Damwain yw’r cyfan. Mae pethau’n digwydd, a gyda llaw, rwyt ti’n ddamwain hefyd.
Ond mae Iesu’n rhoi sgript arall i ni. Mae e’n dweud bod yna bwrpas i fywyd. Ac mae popeth amdanat ti, yr anadl sydd ynot, y galon sy’n curo o’th fewn, dy ddagrau, amheuon, a breuddwydion, o bwys. Mae e’n addo y bydd cyfiawnder yn teyrnasu, bydd trugaredd yn trechu, byd yr hyn chwalwyd yn cael ei ailadeiladu, ac mae e’n ein gwahodd i ymuno’r gorau gallwn.
Mae rhai’n dweud fod hyn yn ddim byd mwy na ffantasi. Pwy a ŵyr, falle bod nhw’n iawn? Falle ein bod yn wallgof, ac wedi ein twyllo, ond byddai’n well gen i fyw bywyd mewn gobaith, yn chwilio am Dduw hyfryd, yn hytrach na mewn yng ngwacter byd di-dduw.
Dw i’n credu bod mwy i fodolaeth na difaterwch dall, truenus.
Dw i’n credu mewn Duw a’n creodd ni, ein caru, rhoi ei hun drosom, ac yn ein denu yn ddi-baid, yn ddi-ildio, yn gariadus, ato'i hun.
Dw i’n credu bod yna bwrpas i fywyd.
Dw i’n credu nad marwolaeth sydd â’r gair olaf.
Dw i’n credu mewn realiti i’r eithaf ac. . . y mae’n gyforiog o fywyd, prydferthwch, lliw, a dyfnder.
Dw i’n credu bod amheuaeth yn rhan o fod yn ddynol. Mae’n ein hymestyn, ein clwyfo, ac yna - os wnawn ni adael iddo - ein harwain i ffydd ddyfnach.
Dw i’n credu, hyd yn oed pan mae’r haul yn tywyllu, fe fydd yn dychwelyd. Bydd yr eclips yn pasio heibio. Falle bydd y byd yn edrych yn wahanol, ond dŷn ni hefyd.
A dw i’n credu bod mwy i ni na ffurf a sylwedd.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae brwydro gyda ffydd ac amheuaeth yn gallu bod yn hynod o unig ac ynysig. Mae rhai’n dioddef mewn tawelwch, tra bod eraill yn cilio o’u ffydd yn gyfan gwbl, gan dybio bod amheuaeth yn anghydnaws â ffydd. Mae Dominic Done yn credu bod hyn yn drasig ac yn hollol anghywir. Mae e’n defnyddio’r Ysgrythur a llenyddiaeth i ddadlau, nid yn unig fod cwestiynu yn normal ond ei fod yn aml yn llwybr tuag at ffydd gyfoethog a bywiog. Cymer olwg ar ffydd ac amheuaeth yn y cynllun 10 diwrnod hwn.
More