Pan fydd Ffydd yn Methu: 10 Diwrnod o ddod o Hyd i Dduw yng Nghysgod AmheuaethSampl
Beth os ydw i’n anghywir?
Mae rhai’n dehongli’r cwestiwn fel ymosodiad ar ffydd. Ond, beth os mai’r foment hon yw cyfle gorau ffydd? Falle bod arnom angen ein herio fel bod ein barn a’n credoau yn gallu cael eu harchwilio a’u hadnewyddu. Falle bod y pwysau dŷn ni’n eu profi fel dilynwyr Iesu yn meithrin gras i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd credu, ac yn creu lle i ffydd fwy bywiog, sy'n ymwneud â diwylliant, dyfu.
Yn hanesyddol mae pobl wedi darganfod eu llais mewn alltudiaeth. Dyna sut sgwennwyd y Beibl. Dyna sut mae chwyldroadau yn dechrau. Mae hunaniaeth yn cael ei eni yn ing y gwaharddiad. Ac unwaith y bydd hunaniaeth wedi'i darganfod, mae unigrywiaeth, arallrwydd a harddwch ei gwrth-naratif yn tynnu byd anghrediniol yn ôl ato'i hun.
Os yw hynny’n wir, does dim rhaid i ni banicio pan mae’r byd yn taflu amheuaeth ar draws ein llwybr. Does dim i’w ofni; dim o gwbl pan fyddwn yn profi amheuaeth o unrhyw fath, o unrhyw gyfeiriad. Boed yn bwysau diwylliant, amgylchiadau trasig bywyd, yr amrywiadau mewn emosiwn, poenau cynyddol ffurfiant ysbrydol, neu ryw angst mewnol cudd, pan fydd amheuaeth yn torri ar draws dy daith, mae angen i ti werthfawrogi ei botensial i'th symud ymlaen mewn ffyrdd na wnaed erioed o’r blaen.
Nid diwedd y stori yw amheuaeth; y pryder yw o’i mewn. Amheuaeth yw’r dirgelwch annisgwyl, y cwestiwn diddiwedd sydd heb ei ddatrys. Amheuaeth yw bod ar bigau’r drain, bwyd heb ei gnoi, anafu braich dy gymydog, a methiant i edrych i ffwrdd o’r darlun, er gymaint yr hoffet ti wneud.
Mae amheuaeth yn dy orfodi i ailasesu stori dy fywyd. Beth yw dy werthoedd? Beth wyt ti’n ei gredu go iawn? I ba gyfeiriad wyt ti eisiau mynd? Fel dŵr rhwng dau lan mae amheuaeth yn creu lle ar gyfer canlyniadau gwahanol. Medri nofio at Dduw neu i ffwrdd oddi wrtho. Gelli estyn tuag at gred neu anghrediniaeth. Dy ddewis di yw e. Mae amheuaeth, yn ei hanfod, yn niwtral. Yr hyn rwyt yn ei wneud ag e sy’n cyfrif.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae brwydro gyda ffydd ac amheuaeth yn gallu bod yn hynod o unig ac ynysig. Mae rhai’n dioddef mewn tawelwch, tra bod eraill yn cilio o’u ffydd yn gyfan gwbl, gan dybio bod amheuaeth yn anghydnaws â ffydd. Mae Dominic Done yn credu bod hyn yn drasig ac yn hollol anghywir. Mae e’n defnyddio’r Ysgrythur a llenyddiaeth i ddadlau, nid yn unig fod cwestiynu yn normal ond ei fod yn aml yn llwybr tuag at ffydd gyfoethog a bywiog. Cymer olwg ar ffydd ac amheuaeth yn y cynllun 10 diwrnod hwn.
More