Pan fydd Ffydd yn Methu: 10 Diwrnod o ddod o Hyd i Dduw yng Nghysgod AmheuaethSampl
![When Faith Fails: 10 Days Of Finding God In The Shadow Of Doubt](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F13765%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Dydy Duw ddim yn Dduw bylchau. Mae e’n Dduw popeth. Yr hyn dŷn ni’n gwybod amdano a’r hyn dŷn ni ddim. Ei gynllun e yw’r cyfan. Gwna restr o’r hyn wyt ti’n gwybod am wyddoniaeth ac ychwanega farc cwestiwn at bopeth dwyt ti ddim yn gwybod amdano. Yna tynna gylch mawr o gwmpas y cwbl. Dyna Dduw. Mae'r bydysawd yn gymhleth, enigmatig, ac yn llawn dirgelwch oherwydd iddo ei wneud felly. Ac yna fe’i rhoddodd i ni.
Ti piau popeth.
Mae Duw, o fewn, o gwmpas, uwchlaw, islaw, a thu hwnt i wyddoniaeth. Dydy darganfyddiad gwyddonol ddim yn negyddu bodolaeth Duw yn fwy nag y mae gwybod sut y mae iPhone yn gweithio, yn negyddu bodolaeth Tim Cook.. . .
Mae hyn mor bwysig. Dydy gwyddoniaeth ddim yn dileu Duw. Mae’n dangos pa mor greadigol yw Duw.
Ond beth os mae’n ymddangos bos yna wrthdaro rhwng Gair Duw a byd Duw?
Cymer olwg agosach, ymchwilia mwy, chwilia, ymhola, aros, astudia, darllena. Gofynna gwestiynau. Bydd yn agored i’r syniad fod dy ddadansoddiad o’r Ysgrythur (neu wyddoniaeth) yn anghywir. Paid cefnu ar dy ffydd. Paid rhoi’r gorau i’r hyn rwyt ti’n ei garu am rywbeth ti’n gwybod fawr ddim amdano. Cofleidia ryfeddod diffyg ymwybyddiaeth, eistedda mewn tensiwn, derbyn bod yna ddirgelwch.
Oherwydd, pwy ag ŵyr, gallai’r dirgelwch ryw ddiwrnod gael ei ddatrys, a byddi’n darganfod nad oedd yna wrthdaro wedi’r cyfan.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
![When Faith Fails: 10 Days Of Finding God In The Shadow Of Doubt](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F13765%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Mae brwydro gyda ffydd ac amheuaeth yn gallu bod yn hynod o unig ac ynysig. Mae rhai’n dioddef mewn tawelwch, tra bod eraill yn cilio o’u ffydd yn gyfan gwbl, gan dybio bod amheuaeth yn anghydnaws â ffydd. Mae Dominic Done yn credu bod hyn yn drasig ac yn hollol anghywir. Mae e’n defnyddio’r Ysgrythur a llenyddiaeth i ddadlau, nid yn unig fod cwestiynu yn normal ond ei fod yn aml yn llwybr tuag at ffydd gyfoethog a bywiog. Cymer olwg ar ffydd ac amheuaeth yn y cynllun 10 diwrnod hwn.
More
Cynlluniau Tebyg
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymarfer y Ffordd
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Coda a Dos Ati
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Hadau: Beth a Pham
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dwyt ti Heb Orffen Eto
![P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40702%2F320x180.jpg&w=640&q=75)