Logo YouVersion
Eicon Chwilio

DUW + BWRIADAU: Sut i bennu Bwriadau fel CristionSampl

GOD + GOALS: How To Set Goals As A Christian

DYDD 5 O 5

DYDD 5: Beth os nad wyf yn dilyn drwodd i'r diwedd?

Mae gen ti rai bwriadau da mewn goleg, a rwyt yn hyderus y bydd yr Arglwydd yn dy arwain. Ond, beth os wnei di fethu? Rwyt yn ofni na fyddi'n dilyn drwodd i'r diwedd, yn gwneud llanast o bethau, ac yn siomi Duw.

Mae yna ddywediad poblogaidd sy'n dweud, "Roedd hi'n credu y gallai hi, ac fe wnaeth." Ond mae Gair Duw'n dadlennu gwirionedd dyfnach sy'n rhyddhau. Credodd hi na allai, felly fe wnaeth Duw. Does dim rhaid i ti wneud y cwbl, fy ffrind. Dydy Duw ddim yn disgwyl i ti fod yn berffaith. Dyna pam anfonodd e Iesu i'n hachub - gwyddai y byddai arnom angen Gwaredwr i fod yn nerth i ni pan y byddwn ni'n wan, i'n harwain, i ddangos y ffordd, ac i gymryd y gosb am ein pechodau. Yr Efengyl sy'n bwydo bwriadau arweinir gan Dduw, yn ein cadw a'n symbylu i fynd nôl ar y llwybr pan dŷn ni'n disgyn. Ble nad wyt ti'n gallu, fe wnaiff e. I ddweud y gwir fe wnaeth hyn yn barod ar y groes. dyd e ddim o bwys os wyt ti'n llwyddo ai peidio, mae Duw wedi ennill y fuddugoliaeth pennaf dros farwolaeth drosot ti a mi! Does dim unrhyw lanast na allith o mo'i droi'n rywbeth hyfryf.

Gad i ni roi'r cyfan at ei gilydd.

  • Ceisia ei ddoethineb ar ei fwriadau arweiniol a chynllunio gofalus. Bydd yn ei roi i ti.
  • Cymra gamau mewn ffydd, yn y bwriadau mawr a'r rhai sy'n fysol yr olwg.
  • A thrystia e i dywallt ei rasdrosot tiar y sawl tro y byddi'n gwneud llanast ar y daith - oherwydd ti'n siŵr o wneud llanast! Ond os yw dy fwriadau wedi'u hanelu'n union ato e, fyddi di ddim yn rhoi fyny ar y daith. Byddi'n troi ato am nerth a doethineb, gan wybod nadyw sut wyt yn cyflawni bwriadau o bwys, gymaint â pham.

Gweddïa gyda mi: Arglwydd, o am daith mae hyn wedi bod drwy dy Air sy'n rhoi bywyd! Helpa fi i wneud rywbeth am yr hyn dw i wedi'i ddysgu ac yn fwy na hynny, helpa fi i rannu'r Newyddion Da am Iesu. Gad i'm bwriadau, bach a mawr, fy arwain at dy draed. Ac yn y cyfnodau hynny pan dw i'n methu, atgoffa fi am dy ras drawsnewidiol. Gad i'r gras fy nghymell ymlaen i fyw allan dy bwrpas ar gyfer fy mywyd! yn enw Iesu. Amen.

Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

GOD + GOALS: How To Set Goals As A Christian

Ydy hi'n iawn i bennu bwriadau fel Cristion? Sut wyt ti'n gwybod os yw'r bwriad yn un gan Dduw neu ydy e o'th ben a'th bastwn dy hun? A beth bynnag, sut olwg sydd ar fwriadau Cristnogol? Yn y cynllun pum diwrnod hwn byddi'n pori'n y Gair a dod o hyd i eglurder a chyfeiriad ar osod bwriadau llawn gras!

More

Hoffem ddiolch i Cultivate What Matters am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.cultivatewhatmatters.com/youversion