DUW + BWRIADAU: Sut i bennu Bwriadau fel CristionSampl
![GOD + GOALS: How To Set Goals As A Christian](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F13611%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
DYDD 2: Sut wyt ti'n gwybod os mai bwriad Duw neu dy fwriad dy hun yw e?
Ti'n dechrau ei gweld hi: heb fwriadau, fe allet ti fod yn crwydro'n ddigyfeiriad mewn bywyd. Mae bwriadau gan Dduw'n rhai da. Ond! sut wyt ti'n gwybod os mai bwriad Duw neu dy bwriad dy hun ydyn nhw? sut mae gwahaniaethu? Mae gennyt ofn y byddi'n dewis y bwriadau anghywir!
Wyt ti'n gwybod beth sydd mor anhygoel am Dduw? Lot o bethau, ond yn fwyaf arbennig, mae e eisiau byw'r bywyd hwn ochr yn ochr â ti. Pan wyt yn teimlo ar goll yn dy fwriadau a phwrpas, neu rhwng dewis un llwybr neu un arall, mae e eisiau i ti ofyn iddo am help-ac mae e wrth ei fodd yn ei roi! Mae Iago'n dweud wrthon ni, "Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy'n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw" (Iago, pennod 1, adnod 5 beibl.net).
Ddim yn gwybod os yw dy gynlluniau'n fwriadau da?
Rho fe ar brawf:
- Agora'r Gair a chwilio am adnodau neu storïau'n y Beibl i gadarnhau'r bwriad sydd gen ti mewn golwg.Ydy dy fwriad yn Feibl ganolog? A oes adnodau sy'n ei gadarnhau? "Duw sydd wedi ysbrydoli'r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd, ac maen nhw'n dysgu beth sy'n wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dŷn ni'n ei wneud o'i le, a'n dysgu ni i fyw yn iawn (2 Timotheus, pennod 3, adnod 16 beibl.net).
- Gofynna iddo! Gweddïa a gofyn i Dduw i ddangos y ffordd mae e am iti fynd. "Gadewch i mi ddangos y ffordd i chi, a'ch helpu chi i wybod sut i fyw. Gadewch i mi roi cyngor i chi, wyneb yn wyneb (Salm 32, adnod 8 beibl.net).
- Gofynna i ffrindiau dibynnol neu mentoriaid sy'n caru Duw am arweiniad. "Mae cynlluniau'n mynd ar chwâl heb ymgynghori, ond yn llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor (Diarhebion, pennod 15, adnod 22 beibl.net).
Cofia, does dim fformiwla hudol o un ateb i bopeth heblaw am Dduw ei Hun. Os nad yw'r atebion yn teimlo'n eglur, paid rhoi i fyny! Falle fod hyn yn rhan o'r broses mae e am i ti fyn drwyddo. Yn y disgwyl dŷn ni wedi puro a'n paratoi ar gyfer ytr hyn sydd nesaf. Disgwylia am ei ddoethineb a byddi'n ei gael yn ei amseru perffaith e!
Gweddïa gyda mi Arglwydd, diolch am dy air! Dw i mor ddiolchgar am dy arweiniad clir a doethineb. Os gweli di'n dda, helpa fi.i ganfod y gwahaniaeth rhwng bwriadau a chynlluniau sydd yn ganlyniad fy nghariad atat ti, yn erbyn y gweddill. Helpa fi i adnabod dy lais, trystio'n dy arweiniad you ym mhob dim. Yn enw Iesu. Amen.
Am y Cynllun hwn
![GOD + GOALS: How To Set Goals As A Christian](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F13611%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Ydy hi'n iawn i bennu bwriadau fel Cristion? Sut wyt ti'n gwybod os yw'r bwriad yn un gan Dduw neu ydy e o'th ben a'th bastwn dy hun? A beth bynnag, sut olwg sydd ar fwriadau Cristnogol? Yn y cynllun pum diwrnod hwn byddi'n pori'n y Gair a dod o hyd i eglurder a chyfeiriad ar osod bwriadau llawn gras!
More