DUW + BWRIADAU: Sut i bennu Bwriadau fel CristionSampl
![GOD + GOALS: How To Set Goals As A Christian](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F13611%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
DYDD 3: I pa beth mae bwriadau llawn ffydd yn tebygu?
I beth mae bwriadau arweinir gan Dduw'n tebygu i, hyd yn oed? A fedri di gael bwriad nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â gweinidogaethu - fel gwella dy iechyd neu fynd yn ôl i'r ysgol? Neu, a oes raid i dy holl fwriadau ymwneud â "gweddïo mwy", "mynd ar drip cenhadu* a "gwasanaethu'n fy eglwys"?
Mae rhai bwriadau neu arferion wedi'u gosod allan yn y Gair yn barod, sydd mor ddefnyddiol: darllena dy Feibl (Salm 119, adnod 9), treulia amser mewn gweddi (1 Thesaloniaid, pennod 5, adnodau 17 i 18), treulia amser gyda credinwyr eraill (Hebreaid, pennod 10, adnod 25), a rhanna dy ffydd" (Salm 96, adnod 3). Mae Duw'n dymuno'r pethau hyn gennym i'n cadw'n agos ato e - i'n cadw'n ffrwythlon a ffyddlon. Nid rhestr i'w ddilyn yw hyn, ond yn hytrach, canlyniad calon sydd wedi'i drawsnewid gan ras Duw. Dŷn ni wedi ein cymell i wneud y pethau hyn am ei fod e'n ein caru ni gymaint.
Ond beth am weddill bywyd? Mae Duw eisiau i ni wneud popeth er gogoniant iddo e (1 Corinthiaid, pennod 12, adnod 31) - y bwriadau mawr sydd ganddo ar ein cyfer a'r rhai sy'n edrych yn fydol. Pa un ai os yw'n adeiladu busnes, cwblhau gradd, magu plant, gwneud penderfyniadau ariannol doeth, gofalu am dy gorff, neu hyd yn oed rhoi trefn ar dy fywyd (ysbrydol? Ie!),
Os yw'r pethau hynny'n cael eu gwneud gyda'r bwriad i blesio Duw, fe elli di eu defnyddio i fod yn olau iddo e. Dydy e ddim yn golygu fod rhaid i ni fod yn berffaith yn ein hagwedd at yu pethau hynny nac yn ein cynnydd, dim ond bod yn ffyddlon sydd raid i ni.Pan fyddwn yn gwneud popeth er gogoniant iddo e,,mae pobl yn gweld rywbeth gwahanol ynom ni. Mae nhw'n tybio o ble mae ein gobaith yn dod, ac os Duw a'i myn, cawn gyfle i rannu'r Ffynhonnell. Felly, oes raid i dy holl fwriadau ymwneud â chenhadu a gwasanaethu'r eglwys? Ble bynnag mae'r Arglwydd wedi dy osod, blodeua ble rwyt wedi dy blannu. Dos ati â brwdfrydedd, a bydd y bydol, hyd yn oed, yn dod yn ystyrlon!
Gweddïa gyda mi: Arglwydd, diolch am fy mhlannu'n union ble rydw i. Helpa fi i weithredu ar y pethau rwyt wedi gosod ger fy mron gyda llygaid ysbrydol, gan weld eu bod dan dy arweiniad di, beth bynnag rwyt wedi fy neilltuo ar ei gyfer. Helpa bopeth rwy'n ei wneud i bwyntio nôl atat ti, hyd yn oed pan dw i'n gwneud llanast o bethau a ddim yn cyrraedd y nod. Gad i'th ras fod yn faner ynof wrth i mi fynd rhagddi gyda'r bwriadau, gan wybod nad yw'n ymwneud â pherffeithrwydd, mae e amdanat TI - awdur a pherffeithydd fy ffydd. Yn enw Iesu. Amen.
Am y Cynllun hwn
![GOD + GOALS: How To Set Goals As A Christian](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F13611%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Ydy hi'n iawn i bennu bwriadau fel Cristion? Sut wyt ti'n gwybod os yw'r bwriad yn un gan Dduw neu ydy e o'th ben a'th bastwn dy hun? A beth bynnag, sut olwg sydd ar fwriadau Cristnogol? Yn y cynllun pum diwrnod hwn byddi'n pori'n y Gair a dod o hyd i eglurder a chyfeiriad ar osod bwriadau llawn gras!
More