DUW + BWRIADAU: Sut i bennu Bwriadau fel CristionSampl
DYDD 4: Sut ydw i'n gwneud i'm bwriadau weithio a pheidio mynd tu hwnt i ewyllys Duw?
Rwyt yn barod i fynd ati, rwyt ti eisiau mynd ati gyda bwriadau arweinir gan Dduw,...a rwyt ti'n ofnus. Mae gennyt ofn gweithredu ar y bwriadau hynny, wedi ffocysu gymaint ar eu cyflawni fel dy fod yn gwthio Duw allan yn y broses. Sut mae cadw dy ffocws ar Dduw a chwblhau dy fwriadau ar yr un pryd?
I ddechrau, bydd y bwriadau iawn yn dy arwain ar ei lwybrau, yn ei ffyrdd, ddim i ffwrdd oddi wrtho.
Yn union fel taset ti'n gwneud ar daith hir, cadw lygad ar y map i wneud siŵr dy fod yn mynd i'r cyfeiriad cywir. Os wyt yn colli golwg ar y cynllun, mae'n bosib y byddi'n ffeindio dy hun ar stryd ddieithr. Ond, dos ati eto, a byddi'n ffeindio dy hyn nôl ar y llwybr cywir! Dydy Duw ddim yn poeni os wyt yn cael llwyddiant perffaith gyda bwriad, mae e eisiau dy galon. Gam wrth gam, gweddi ar ôl gweddi, moment wrth foment wrth i ti ei ymlid, byddi'n aros ar y llwybr cywir. Bydd cysylltiad ag e'n dy gadw dan ei reolaeth.
Gweddïa gyda mi: Arglwydd, dw i'n ofni cychwyn allan ar lwybr nad yw'n perthyn i ti. Os gweli di'n dda, rho i mi ysbryd cryf, llawn cariad a chyfrifol (2 Timotheus, pennod 1, adnod 7). Diolch am y map - dy Air - a'r gallu i weddïo'n uniongyrchol i Ti! Os gweli di'n dda, helpa fi i aros â'm ffocws arnat ti wrth i'm bwriad yn lle cymeradwyaeth eraill, yn cael ei wobrwyo, neu'r pleser o weithio drwy'r rhestr. Dw i eisiau gweithio'n galed drosot ti am y rhesymau cywir. Diolch am fy arwain a'm cadw ar dy lwybr! Yn enw Iesu. Amen.
Am y Cynllun hwn
Ydy hi'n iawn i bennu bwriadau fel Cristion? Sut wyt ti'n gwybod os yw'r bwriad yn un gan Dduw neu ydy e o'th ben a'th bastwn dy hun? A beth bynnag, sut olwg sydd ar fwriadau Cristnogol? Yn y cynllun pum diwrnod hwn byddi'n pori'n y Gair a dod o hyd i eglurder a chyfeiriad ar osod bwriadau llawn gras!
More