Defnyddio dy amser ar gyfer DuwSampl
Gosod dy Amserlen
Defnyddia dy amser rhydd ar gyfer gweithgareddau sy'n cyfoethogi bywyd. Mae darllen yn ddefnydd gwerthfawr o amser. Cynghorodd Awstin gredinwyr unwaith i ddysgu cymaint o bethau â phosib, gan mai gwirionedd Duw yw pob gwirionedd. Mae galwedigaethau eraill sy'n cyfoethogi ym maes y celfyddydau. Dw i hefyd yn mwynhau gweithio posau croesair i gynhesu'r celloedd bach llwyd ac ehangu fy mhersbectif o fynegiant geiriol.
Darganfydda ffyrdd o guro lleidr amser. Fel arfer bydda i'n mynd i'r gwely rhwng wyth a naw o'r gloch yr hwyr a chodi am, bedwar o'r gloch y bore. Mae hyn wedi effeithio ar chwyldro rhyfeddol ar gyfer fy amserlen. Mae oriau mân y bore'n rhydd o wrthdyniadau ac ymyrraeth, c
Defnyddia amser gyrru car ar gyfer dysgu. Mae gyrru car yn weithred mecanyddol sy'n caniatáu i'r meddwl fod yn effro i fwy na beth sy'n digwydd ar y ffordd. Gellir defnyddio buddion recordiadau yn fawr yn ystod yr amseroedd hyn.
Yn olaf, yn y rhan fwyaf o achosion, mae amserlen yn fwy rhyddhaol na chyfyngol. Mae gweithio gydag amserlen yn help enfawr i drefnu ein defnydd o amser. Dylai'r amserlen fod yn ffrind, nid yn elyn. Mae'n ein helpu i ddod o hyd i'r rhythm ar gyfer bywyd cynhyrchiol sy'n gogoneddu Duw.
Coram Deo: Byw gerbron wyneb Duw
Os nad oes gen ti amserlen, gwna un a'i defnyddio am weddill yr wythnos, ac yna gloriannu sut wnaeth e dy helpu i ad-ennill amser. Os oes gen ti amserlen, cymer amser i'w hadolygu a gweddïo am dy flaenoriaethau.
Copyright © Ligonier Ministries. I gael llyfr am ddim gan R.C. Sproul dos i Ligonier.org/freeresource.
Am y Cynllun hwn
Defosiwn 4 diwrnod gan R C Sproul ar ddefnyddio dy amser gyda Duw. Mae pob defosiwn yn galw arnat i fyw ym mhresenoldeb Duw, o dan awdurdod Duw, ac er gogoniant i Dduw.
More