Defnyddio dy amser ar gyfer DuwSampl
Curo'r Cloc
Dw i wedi dysgu ambell i dwyll i guro'r cloc. Fe allen nhw fod o help i ti.
Dw i'n sylweddoli mai fy holl amser yw amser Duw a fy holl amser yw fy amser fy hun yn ôl ei ddirprwyaeth. Duw sy'n berchen arna i a fy amser. Ond eto, mae e wedi rhoi cyfnod o amser dw i'n gyfrifol amdano. Dw i'n gallu pennu'r amser hwnnw i weithio dros bobl eraill, ymweld ag eraill ac ati, ond mae'n amser mae'n rhaid i mi roi cyfrif ohono.
Gellir ad-dalu amser drwy ganolbwyntio a ffocysu. Mae un o'r gwastraffau mwyaf o amser yn digwydd yn y meddwl dynol. Gall ein dwylo fod yn brysur ond mae ein meddwl yn ddiog. Yn yr un modd mae ein dwylo'n gallu bod yn ddiog, tra bod ein meddwl yn brysur. Mae ffantaseiddio, breuddwydio a gwamalu gwag yn ffyrdd i'r meddwl wastraffu amser. I ffocysu ar y dasg - gyda chanolbwyntio tanbaid - dylet ymdrechu i amser fod yn gynhyrchiol.Mae'r meddwl yn gallu ad-dalu amser gwerthfawr sydd wedi'i ddefnyddio gan gweithredoedd cyffredin neu mecanyddol. Er enghraifft nid yw'r weithred o gymryd cawod yn anodd. Yn y sefyllfa yma mae'r meddwl yn rhydd ar gyfer datrys problemau, meddwl creadigol, neu gyfansoddi themâu. Mae nifer o fy negeseuon a darlithoedd wedi'u hegino yn y gawod. Pan o'n i'n arfer chwarae lot o golff ffeindiais fod yr amser rhwng pob ergyd yn gyfle da i greu negeseuon yn fy meddwl.
Coram Deo: Byw gerbron wyneb Duw
Bydd yn ymwybodol o ble rwyt ti'n ffocysu dy feddwl heddiw. Ceisia ad-dalu amser gwerthfawr sydd wedi'i gymryd gan weithrediadau cyffredin a mecanyddol drwy feddwl am bethau sydd o werth tragwyddol.
Copyright © Ligonier Ministries. I gael llyfr am ddim gan R.C. Sproul dos i Ligonier.org/freeresource.
ChwaraeAm y Cynllun hwn
Defosiwn 4 diwrnod gan R C Sproul ar ddefnyddio dy amser gyda Duw. Mae pob defosiwn yn galw arnat i fyw ym mhresenoldeb Duw, o dan awdurdod Duw, ac er gogoniant i Dduw.
More