Defnyddio dy amser ar gyfer DuwSampl
Defnyddio dy amser yn Gynhyrchiol
Pan o'n i'n blentyn yn yr ysgol gynradd gofynnai pobl yn aml i mi, "Beth ydy dy hoff bwnc?" Yn anochel, roedd fy ateb yn un o ddau beth, Ro'n i'n arfer dweud, "amser chwarae" neu "chwaraeon." Roedd fy ateb yn dadlennu fy hoffter mwyaf. Roedd yn well gen i chwarae na gwaith. Yn wir, roedd fy myfyrdod athronyddol eginol ynghylch y cwestiynau "Pam?" cosmig yn digwydd wrth i mi gerdded i'r ysgol drwy fynd ar flaenau fy nhraed gan esgus fy mod yn gerddwr gwifren uchel mewn syrcas.
Gofynnais i mi fy hun ystyr bywyd lle roedd yn rhaid i mi dreulio pum diwrnod yr wythnos yn gwneud yr hyn nad o'n i eisiau ei wneud er mwyn i mi allu chwarae ar y penwythnosau. Ro'n i wastad ar yr iard yr ysgol awr lawn cyn i'r ysgol ddechrau - nid allan o sêl am gael y blaen ar fy astudiaethau, ond fel y gallwn i "adbrynu" gwerth awr o ddiflastod dyddiol drwy gael hwyl ar y maes chwarae cyn i gloch yr ysgol ganu. I mi, roedd adbrynu amser yn golygu achub munudau gwerthfawr o chwarae o'r oriau gwaith gofynnol.
Dw i wedi dod i sylweddoli pan oedd yr Apostol Paul yn annog ei ddilynwyr i ad-ennill amser, "Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni, achos mae digon o ddrygioni o'n cwmpas ni ym mhobman" (Effesiaid, pennod 5, adnod 16), nid fy ngweithgareddau i oedd y math o beth oedd ganddo mewn golwg. Yr hyn oedd yn ei olygu oedd galwad ddefodol i ddefnyddio amser yn gynhyrchiol yn ngwaith teyrnas Dduw.
Coram Deo: Byw gerbron wyneb Duw
Wyt ti'n defnyddio dy amser yn gynhyrchiol yng ngwaith teyrnas Dduw?
Copyright © Ligonier Ministries. I gael llyfr am ddim gan R.C. Sproul dos i Ligonier.org/freeresource.
Am y Cynllun hwn
Defosiwn 4 diwrnod gan R C Sproul ar ddefnyddio dy amser gyda Duw. Mae pob defosiwn yn galw arnat i fyw ym mhresenoldeb Duw, o dan awdurdod Duw, ac er gogoniant i Dduw.
More