Defnyddio dy amser ar gyfer DuwSampl
Ad-dalu dy Amser
Amser yw'r gwastatwr mwyaf. Dyma'r un adnodd sydd wedi'i ddyrannu'n hollol gydradd. Mae gan bob person byw yr union run oriau i'w defnyddio mewn diwrnod. Dydy pobl brysur ddim yn cael bonws sbesial wedi'i ychwanegu i oriau eu diwrnod. Does dim ffefrynnau gan y cloc.
Mae pawb efo'r union run amser mewn diwrnod. Yr hyn sy'n ein gwahaniaethu yw sut dŷn ni'n defnyddio'r amser sydd gynnon ni. Pan mae rywbeth yn cael ei ad-dalu mae e'n deillio o ryw sefyllfa negyddol. Y sefyllfa negyddol sylfaenol dŷn ni'n delio ag e yw'r sefyllfa o wastraff. Gwastraffu amser yw gwario amser ar rywbeth nad oes arno fawr o werth.
Un o ddywediadau'r diweddar Vince Lombardi oedd, "Wnes i ''rioed golli gêm, dim ond rhedeg allan o amser." Mae'r esboniad hwn yn fy arwain at un o elfennau mwyaf dramatig chwaraeon - y ras yn erbyn y cloc. Y tîm sydd fwyaf cynhyrchiol o fewn yr amser glustnodwyd yw'r tîm sy'n ennill y gêm. Wrth gwrs, mewn chwaraeon, yn wahanol i fywyd, mae yna le i gymryd seibiant. Gall y cloc mewn cystadleuaeth chwaraeon gael ei oedi dros dro. Ond, mewn bywyd, does yna ddim lle i oedi..
Coram Deo: Byw gerbron wyneb Duw
Gofynna i Dduw i ddangos i ti sut i ad-ennill amser sydd wedi'i wastarffu ar bethau nad oes fawr o werth iddyn nhw.
Copyright © Ligonier Ministries. I gael llyfr am ddim gan R.C. Sproul dos i Ligonier.org/freeresource.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Defosiwn 4 diwrnod gan R C Sproul ar ddefnyddio dy amser gyda Duw. Mae pob defosiwn yn galw arnat i fyw ym mhresenoldeb Duw, o dan awdurdod Duw, ac er gogoniant i Dduw.
More