Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dod o hyd i HeddwchSampl

Finding Peace

DYDD 8 O 17

Byw mewn Heddwch gydag Eraill

Mae'n sialens dŷn ni'n ei wynebu'n gyson: Sut allwn ni fyw mewn heddwch gyda phobl eraill ac adfer heddwch pan mae gwrthdaro yn digwydd?

Y pwynt ydy, mae Duw yn dymuno i ni fyw gydag eraill mewn heddwch. Mae e'n gwybod hefyd na fyddwn ni bob amser mewn heddwch gydag eraill. Mae gwrthdaro yn anorfod. Weithiau dydy adfer hedwch ddim yn hawdd. Ar rai adegau does dim gobaith adfer heddwch. Fodd bynnag, mae Duw eisiau i ni wneud y cwbl allwn ni i fyw mewn heddwch â'n gilydd.

Rydym ni sy'n dilyn Crist yn gwybod o'r gorau y gallwn ni ymateb yr un mor ddirmygus ag anghredinwyr, os nad yw Duw mewn rheolaeth lwyr o'n bywydau. Tydi ein hiachawdwriaeth ddim yn ein cadw rhag bod yn grintachlyd, cenfigennus, cas, neu flin. Dim ond wrth i ni ofyn i'r Ysbryd Glân i weithio ynddo ni a thrwyddo ni, dim ond wrth i ni ildio ein natur i'w natur e, dim ond wrth i ni geisio bod yn gynrychiolwyr iddo ar y ddaear hon mewn unrhyw berthynas sydd gynnon ni, y gallwn ni symud tu hwnt i falchder tuag at ymarweddiad sy'n sefydlu heddwch.

Felly, Sut mae delio efo gwrthdaro pan mae'n codi a sefydlu canlyniad heddychlon?

Yn gyntaf, rhaid pennu gwerth y berthynas. Os wyt ti'n mnynd i fyw mewn heddwch gyda pherson arall, mae'n rhaid i ti benderfynu, "Ydy'r berthynas hon yn ddigon gwerthfawr i mi ei chadw? Ydw i'n fodlon cyfaddawdu ar rai pethau er mwyn i'r berthynas weithio?" Dw i'n credu'n gydwybodol fod y rhai hynny sydd wedi'u hachub drwy ras a'r Ysbryd Glân yn byw o'u mewn, yn gallu dod o hyd i heddwch go iawn an fo'r ddau yn gwerthfawrogi cynnal y berthynas.
Yn ail, dechreua siarad... a chadwa ati i siarad. Pan fydd m
Yn drydydd, bydd yn dryloyw. Fedri di ddim cael ryw agenda gudd neu gynllun i lywio sgwrs yng nghefn y meddwl gan obeithio am berthynas heddychlon. Mae bod yn agored a gonest efo gydag eraill pan mae gwrthdaro yn codi, yn helpu ti i gyrraedd canlyniadau heddychlon mewn perthynas ag eraill.
Yn olaf, dylet gael gwared ar wraidd y broblem. Wrth i ti siarad yn agored ag eraill, gan gymryd golwg onest ar beth yw gwraidd y broblem, byddi mewn sefyllfa gymaint gwell i weithio drwy unrhyw anawsterau a sefydlu heddwch.
Wrth i ti ymdrechu i fyw mewn heddwch ag eraill, gan gadw at wirionedd Gair Duw, gelli fod yn sicr fod Duw yn sefyll gyda ti. Bydd yn troi unrhyw wrthdaro neu erledigaeth y byddi'n eu profi er dy les dy hun. Bydd yn achosi twf ysbrydol, ffydd gryfach, a grym cymaint cryfach o'th mewn,

Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Finding Peace

Wyt ti eisiau mwy o heddwch yn dy fywyd? Wyt ti eisiau tawelwch i fod yn fwy na dim ond dymuniad? Mi elli di ennill heddwch, ond dim ond o un ffynhonnell - Duw. Ymunwch â Dr. Charles Stanley wrth iddo ddangos y ffordd i dawelwch newydd i'r meddwl, fydd yn cynnig yr arfau sydd eu hangen i ddatrys gofidiau'r gorffennol, i wynebu pryderon y presennol, a lleddfu pryderon am y dyfodol.

More

Hoffem ddiolch i Joyce Meyer yn Touch Ministries am ddarparu'e cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://intouch.cc/peace-yv