Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dod o hyd i HeddwchSampl

Finding Peace

DYDD 9 O 17

Goroesi Ofn

Mae llawer yn credu mai'r gwrthwyneb i ofn yw gobaith, dewrder, neu gryfder. Y gwrthwyneb go iawn i ofn yw ffydd. A phan mae ofn yn achosi parlysu, mae e nid yn unig yn ymosod ar ein heddwch, mae e'n ymosod ar sylfeini'r heddwch hwnnw - sef, ein ffydd. Mae heddwch yn diflannu pan mae ofn yn bresennol.

Gwraidd y rhan fwyaf o'r ofn yw'r amheuaeth o bresenoldeb Duw, y bydd yn darparu cyfiawnder neu help, neu fod yn abl i ddelio efo'r argyfwng presennol. Mae ffydd yn dweud, "Ydy, mae Duw yma. Bydd Duw yn darparu. Ydy, mae popeth yn bosibl i Dduw!"

Gwraidd y rhan fwyaf o'r ofn yw bygythiadau - weithiau'n fygythiadau geiriol, weithiau'n ymddygiad bygythiol, Mae ffydd yn dweud, "Dydw i ddim am gael fy nghlwyfo gan fygythiadau. Dw i'n credu y bydd Duw yn atal unrhyw fygythiad rhag digwydd. Ac os bydd yn digwydd, dw i'n credu y bydd Duw yn fy helpu i ddelio efo beth bynnag ddaw i'm profi."

Pan sylweddolodd Saul fod Duw wedi cymryd ei allu o eneinio a bendithio oddi arno, roedd yn (oherwydd ei falchder ac anufudd-dod) a'i osod ar y dyn ifanc, Dafydd, roedd yn gynddeiriog. Dechreuodd ymgyrch i ddod o hyd i Dafydd a'i ladd - er mwyn cael gwared o'r bygythiad hwn o'i fywyd (1 Sam. 19). Ar y llaw arall, teimlai Dafydd dan fygythiad byddin Saul ar sawl achlysur ac ofnai am ei fywyd. Ond mae'r Gair yn dweud wrthon ni fod Dafydd wedi'i nerthu gan addewid Duw i'w amddiffyn a'i wneud yn frenin ar Israel ryw ddiwrnod.

Yn ein byd modern dŷn ni'n aml yn darllen am bobl sydd, er gwaethaf eu dychryn gan haint, damweiniau, neu beryglon, wedi bwrw 'mlaen i ganlyniadau ansicr - gwrthodiad, gorchfygiad, ac, ie, weithiau fuddugoliaeth. Mae Anturiaethwyr yr Arctig, athletwyr Olympaidd, Cyfalafwyr, a dyngarwyr yn croesi'r meddwl. Felly, does dim rhaid i fygythiadau ein rhwystro, na'n parlysu.

Ein sialens, pan fyddwn dan fygythiad, yw ffocysu nid ar beth allai ddod yn wirionedd, ond yn hytrach, ffocysu ar yr hyn y gallwn fod yn sicr, sy'n wirionedd.

Mae llawer o bobl yn byw dan gwmwl o fygythiad heddiw. Mae rhai yn wynebu bygythiad o haint, m ae rhai yn wynebu bygythiad o niwed i'w plant, ac mae rhai yn clywed bygythiad eu bod am golli eu swyddi.

Yr ateb ar pob un o'r rhain yw ffyddyn yr hyn dŷn ni'n wybod ei fod yn wir am Dduw ac am ei gariad tuag atom, a'i allu i ddarparu popeth ar ein cyfer - yn arbennig felly, ei heddwch, fydd yn ein cario drwy unrhyw beth.

Ysgrythur

Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

Finding Peace

Wyt ti eisiau mwy o heddwch yn dy fywyd? Wyt ti eisiau tawelwch i fod yn fwy na dim ond dymuniad? Mi elli di ennill heddwch, ond dim ond o un ffynhonnell - Duw. Ymunwch â Dr. Charles Stanley wrth iddo ddangos y ffordd i dawelwch newydd i'r meddwl, fydd yn cynnig yr arfau sydd eu hangen i ddatrys gofidiau'r gorffennol, i wynebu pryderon y presennol, a lleddfu pryderon am y dyfodol.

More

Hoffem ddiolch i Joyce Meyer yn Touch Ministries am ddarparu'e cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://intouch.cc/peace-yv